Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Welsh outlook a monthly journal of national social progress.

Cylchgrawn poblogaidd Saesneg oedd Welsh outlook: a monthly journal of national social progress , yn cynnwys newyddion ac arsylwadau ac erthyglau ar wleidyddiaeth, y celfyddydau ac addysg, roedd yna adolygiadau o lyfrau a llythyron, ynghŷd ag ychydig farddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddwyd rhwng 1915 a 1933.

Iaith: Saesneg

Manylion Cyhoeddwr: Sefydlwyd The Welsh Outlook Press yng Nghaerdydd yn 1913 yn gyhoeddwr llwyr ymroddedig i hyrwyddo cynnydd cymdeithasol drwy agenda lled ryddfrydol. Fe’i grewyd o ganlyniad i waith Thomas Jones a David Davies. Cyhoeddodd Welsh Outlook a nifer o lyfrau yn trafod Cymru. Symudodd i’r Drenewydd yn 1922, a bu’n weithredol yno tan y 1940au. Cyhoeddwyd adroddiad o hanes Welsh Outlook yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru XXIV, Rhif 4 (1986).

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1914

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1933