Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Cymru

Cylchgrawn misol poblogaidd â chanddo bolisi anenwadol cryf oedd "Cymru". Roedd yn bwysig iawn wrth hyrwyddo cenedlgarwch diwylliannol yng Nghymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif . Ceid ynddo erthyglau yn ymwneud â llenyddiaeth a'r celfyddydau. Wrth ei ddigido, rhannwyd y cyhoeddiad yn ddwy gyfres: Cyf. 1 (1891) – Cyf. 17 (1899) a Chyf. 18 (1900)- Cyf. 72 (1927)

Iaith: Cymraeg

Manylion Cyhoeddwr: Sefydlwyd Cymru gan Owen M. Edwards yn 1891; a bu’n olygydd arno hyd 1920. Cyhoeddwyd y cylchgrawn gan gyfres o gwmniau o Gaernarfon, D.W. Davies ai’i Gwmni, Cwmni’r Wasg Genedlaethol Gymreig, a Chwmni’r Cyhoeddwyr Cymreig, yna gan Hughes a’i Fab, Wrecsam.

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1900

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1927