Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Yr arweinydd (Aberdar)

Cylchgrawn crefyddol misol, anenwadol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi erthyglau crefyddol, erthyglau ar wyddoniaeth, cerddoriaeth, hynafiaeth a gwleidyddiaeth ynghyd â barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn ar y cyd gan y gweinidog gyda'r Bedyddwyr a'r llenor John Jones (Mathetes, 1821-1878), y bardd a llenor John Edwards (Meiriadog, 1813-1906), William Harries a James Jones.

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Aberdar [Aberdare]

Manylion Cyhoeddwr: Jenkin Howell

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1869

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1870