Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Yr ysgol gerddorol

Cylchgrawn cerddorol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn rhoi pwyslais ar gerddoriaeth gysegredig. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau ar gerddoriaeth a cherddorion, adroddiadau o gystadlaethau cerddorol a'r eisteddfodau, barddoniaeth a darnau o gerddoriaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y cerddor William Thomas Rees (Alaw Ddu, 1838-1904) a'r gweinidog ac awdur John Ossian Davies (1851-1916).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Llanelli

Manylion Cyhoeddwr: Argraffwyd gan James Davies and Co.

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1878

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1880