Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Geiniogwerth

Cylchgrawn crefyddol a chyffredinol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd wedi ei darparu ar gyfer y Methodistiaid Calfinaidd. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol a dirwestol, barddoniaeth a newyddion. Golygwyd y cylchgrawn ar y cyd gan David Charles (1812-1878) a Lewis Edwards (1809-1887) tan Dachwedd 1847, gan David Charles, Lewis Edwards, Lewis Jones (1808-1854) a John Parry (1812-1874) tan Fehefin 1849, ac yna gan Lewis Edwards, John Parry a Lewis Jones. Teitlau cysylltiol: Y Methodist (1852).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Dinbych [Denbigh]

Manylion Cyhoeddwr: Thomas Gee

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1847

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1851