Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Y Tywysydd a'r Gymraes

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd wedi ei darparu ar gyfer plant ysgolion Sul yr Annibynwyr. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol ac ar draddodiadau a chredoau gwledydd tramor, cornel i'r merched a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog, David Rees (1801-1869) a'r gweinidog a newyddiadurwr, Evan Jones (Ieuan Gwynedd, 1820-1852) tan Fawrth 1852, gan David Rees tan Ionawr 1866, ac yna gan Thomas Davies, Llanelli (1823-1898) a Thomas Davies, Llandeilo (1820-1873). Teitlau cysylltiol: Tywysydd yr Ieuainc (1837); Y Gymraes (1850); Tywysydd y Plant (1871).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Llanelli

Manylion Cyhoeddwr: Rees a Williams

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1852

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1870