Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Cronicl y cerddor

Cylchgrawn cerddorol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd wedi ei darparu ar gyfer pobl ifanc. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd cyfansoddiadau, a daeth ar ffurf atodiad, ynghyd ac erthyglau a newyddion ar gerddoriaeth a cherddorion. Golygwyd y cylchgrawn gan y cerddor David Emlyn Evans (1843-1913) gyda'r cerddor, llenor ac ysgolfeistr, Moses Owen Jones (1842-1908) yn is-olygydd, yn gyfrifol am yr adrannau tonic sol-ffa.

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Treherbert

Manylion Cyhoeddwr: I. Jones

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1880

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1883