Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Cwrs y byd

Cylchgrawn misol radical a sosialaidd, Cymraeg ei iaith, a oedd yn bennaf yn cylchredeg yng nglofeydd Siroedd Caerfyrddin a Morgannwg. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau ar wleidyddiaeth, cwestiynau cymdeithasol a chrefydd, ynghyd a barddoniaeth. Sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn oedd y gweinidog Annibynol a diwygiwr tir, Evan Pan Jones (1834-1922), gyda John Owen Williams (Pedrog, 1853-1932) yn is-olygydd barddoniaeth tan Ragfyr 1894 ac yna David Price (Ap Ionawr, 1856-1911).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Ystalyfera

Manylion Cyhoeddwr: Ebenezer Rees a'i Feibion

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1891

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1903