Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

<?= $publication->publicationtitle; ?>

Cyfaill Deoniaeth Llanbadarn Fawr

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu'r Eglwys Sefydledig yn ardal Deoniaeth Llanbadarn Fawr. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd newyddion ynglŷn â phlwyfi ac eglwysi'r ddeoniaeth, gyda'r Cyfaill Eglwysig yn dod fel mewnosodiad i'r cylchgrawn. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd John Thomas Griffiths, Hywel Meredith Williams, Daniel Arthur Thomas a Daniel Morgan Davies. Teitlau cysylltiol: Cyfaill Eglwysig Deoniaeth Llanbadarn Fawr a Glynaeron (1894); Cyfaill Eglwysig Deoniaethau Llanbadarn Fawr ac Ultra Aeron (1913).

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Caerfyrddin [Carmarthen]

Manylion Cyhoeddwr: W. Spurrell a'i Fab

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1890

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1910