Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Trysor i blentyn

Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, i blant ysgolion Sul y Methodistiaid Wesleaidd, er iddi droi'n gylchgrawn anenwadol rhwng 1841-1842. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol ac addysgiadol, yn cynnwys gwersi gramadeg Cymraeg, ynghyd a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan John Williams tan 1829, gan Edward Jones tan 1835, gan Edward a Thomas Jones tan 1836, gan Thomas Jones tan 1838, gan Thomas Jones ac Isaac Jenkins (1812-1877) tan 1839, ac yna gan Isaac Jenkins.

Amlder: Misol

Iaith: Cymraeg

Lleoliad: Llanfair Caereinion

Manylion Cyhoeddwr: William Evans]

Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1825

Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1842