Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Goleuni Newydd ar Ddafydd ap Gwilym. Anaml y syrth braint hafal i hon i ran adolygydd.* Nid pob dydd y ceir croesawu o'r wasg gyfrol sydd yn chwyldroi ein syniadau am hanes a llên Cymru'r Oesoedd Canol, ac yn gwneud hynny heb fradychu yr un iod ar na gonestrwydd beirniad na sobrwydd ysgolhaig. O'r braidd y mae angen cyf- lwyno Karl Kratchan i ddarllenwyr y TIR NEWYDD. Gwnaeth enw iddo'i hun, pan nad oedd ond ifanc, mewn astudiaethau pur wahanol i'r rhai yr ym- drinir â hwy yn y gyfrol hon, ac os bydd neb yn amau dilysrwydd ei ysgol- heictod a'i gasgliadau, cofied nad yw ei ddulliau meddyliol yn ddim amgen na'r rhai hynny y profwyd eu gwerth yn yr Almaen a'r wlad hon hefyd yng nghylchoedd Beirniadaeth Feiblaidd a Diwinyddol. Nid oes gwybodaeth gennyf am osgo politicaidd y Doethor, ac ni all na chenfydd y darllenydd drosto'ihun nad oes lliw propaganda ar ei waith beirniadol. Testun llawenydd yn y dyddiau mamystog hyn yw nad ymgrymodd ysgolheigion Ewrop eto mewn delw-addoliad dall a gadael i deyrnedd erchi eu tuedd meddyliol yn ogystal a'u safle gwleidyddol. Prin y ceid gwell enghraifft o ryddid meddyliol na chyfrol Dr. Kratchan. Rhydd teitl y gwaith syniad eithaf teg am ei gynnwys. Ymgais sydd yma i esbonio bywyd a barddoniaeth Dafydd ap Gwilym trwy gyfrwng astudiaeth o'i gefndir cenedlaethol ac eneidegol, a dengys yr awdur nad yw hanes Dafydd ond dameg o hanes Cymru. "Hanes Dafydd a'i gariadon," meddai, "yw hanes trist yr enaid Celtaidd yn cloffi beunydd rhwng yr Ariad a'r Iddew. Hynt a helynt canrifoedd a grynhoir i gwmpas munud awr pan edy Dafydd ei gariad cyfreithlon, Morfudd, a dilyn y dwyllodres Dyddgu. Dyma ddull y bardd o ddisgrifio'r frwydr yn ei enaid rhwng y Dydd a'r Nos, y Gwir a'r Gau, y Tiwton a'r Iddew." Nid traethu ei farn y mae'r Doethor ond dat- guddio gwirionedd, ac ni cheir lle i gwyno na ddarganfu ffeithiau disigl er profi ei osodiad. Gŵyr pob plentyn ysgol mai gwallt golau sydd gan y Tiwton ac mai du yw gwallt yr Iddew. Gŵyr pobun ddarllenodd gywyddau Dafydd mai'r olau ei phryd yw-Morfudd ac mai'r dywyll yw Dyddgu. Ffaith ddi- ymwad yw i Ddafydd wario blynyddoedd maith er penderfynu rhwng y ddwy ac mai dyna guddiad ei wendid fel dyn a'r esboniad ar ei amherffeith- rwydd fel crefftwr. Diddorol iawn yw cyfeiriad Kratchan, yn y frawddeg a ddyfynnwyd, at gyferbyniad y Dydd a'r Nos. Mewn man arall dywed ragor am hyn, gan fynegi mewn nodyn ar waelod dalen ei ddyled i'r diweddar D. H. Lawrence am awgrymu y syniad iddo. Gwyddis bellach mai Morfudd yw'r Dydd, h.y., *Karl Kratchan. "Astudiaethau yng Nghefndir Cenedlaethol ac Eneidegol Dafydd ap Gwilym, neu y Frwydr rhwng yr Ariad a'r Iddew yng Ngwaith Bardd Cymreig o'r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg, gydag ychydig Sylwadau ar Amhurdeb y Gwaed Cymreig." Leipsig a Berlin, 1937.