Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhyfeddod PAN droais o'r heolydd trwm eu traul A thynnu rhag fy mlaen i fyny'r glyn, Fe wyddwn fod y fro a chwiliwn i 011 dan gyfaredd rhyw ryfeddol hud. 'Roedd hwn yn llawn yng nghân yr adar hoff A distaw sugn y mwsog dan fy nhroed, Yng nglesni'r awyr, mewn aberoedd swil, A'r distaw guro dwylo yn y coed Ddringai'n urddasol hyd i ben y bryn. Fe wyddwn yno fod y trumau tal Yn ddistaw o orfoledd, ac yn llawn Llawenydd tawel, fel marchogion hen Yn gwylio trysor sanctaidd yn eu tro Yn ddifrif-lawen ac yn hyfryd-ddwys. Arhosais innau'n hurt ar ael y bryn Heb wybod y gyfrinach, nes im' weld Y du glogwyni, dan amrannau llaes Eu trwm gysgodion, gyda syndod swil Yn bwrw eu golygon hyd y fan Lle cysgai dyffryn melyn yn yr haul A braich o dwyn yn dyner am ei wddf. Y Ddedfryd Pan ribiodd deuddeg gwr yn ôl i'r llys Peidiodd ein sisial fel wrth ryfedd hud, A daeth y barnwr craff ar ddifrif frys I guddio bryntni'r gwaith â rhodres drud. Yn gysur rhoddes ef ei feddwl ar Oslef ei lais, a dethol olaf ddarn Ei gynnil druth, ac osgo crwm ei war, Wrth yngan geiriau didosturi'r farn. Yntau'r carcharor, ar ei welw wedd, A ddaliodd ar ei air a throi ei rym Yn ingoedd melys a'i bangfeydd yn hedd Yr actor pennaf yn y chwarae llym. Anghofiodd yntau fel y llys di-fraw Fod diwedd ei ysmalio 011 gerllaw. HYWEL D. LEWIS.