Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWR GWADD. 1. JOHN GWÍLYM JONES. Dau ohonom ar y ffordd i'r Groeslon, Sir Gaernarfon yn mynd ati, fel dwy wraig ty, i gynllunio cyflwyniad trawiadol o John Gwilym Jones. Yr oedd angen rhywfaint o sgwrs ag ef, a cheisio'i hudo i ddadlennu i ni ei syniadau personol ef ei hun am ysgrifennu. Ac, wrth gwrs, yr oeddem am gael darn o'i waith. Wedi cyrraedd ei dy, fe gawsom sgwrs a syniadau a darn o nofel, ond ar ôl clywed y nofel, nid oedd diben recordio sgwrs na chof- nodi syniadau. Y ffordd orau i gyflwyno'r dyn, ei ddelfryd am nofel a drama a'i ddidd- ordeb yng nghymhlethdod cymeriad, oedd gadael i'w waith siarad trosto'i hun. Aeth ein cynllunio i'r gwellt. Dim sgwrs, dim syniadau. Yr oedd ei waith yn cymryd eu lle. Pennod o gychwyn nofel a gawsom. Fe'i hysgrifennwyd rywdro yn ystod blynyddoedd y rhyfel, a go brin y gorffennir hi byth. Braint yw ei chyflwyno i ddarllenwyr Yr Arloeswr."