Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Faint o ffilmiau Prydeinig a welsom a gydnabyddai bwysig- rwydd rhyw ? Sawl ffilm a dderbyn yn agored fod rhan helaeth o fywyd ar lefel hollol anifeilaidd, a bod hyn yn wir am amryw o weithrediadau "parchus" teulu a cymdeithas, busnes a chref- ydd ? Sawl ffilm a ddengys fod drwg a da yn gyfrodedd ym mhawb, ac a gydnebydd or-symlrwydd y darlun du-a-gwyn ? O ystyried y cwestiynau hyn gwelir mor afreal yw'r sefyllfa. Cwestiynau y mae'n rhaid i gelfyddyd eu hwynebu ydynt. Ond hyd yma dewisodd cynhyrchwyr ffilmiau ym Mhrydain eu hanwybyddu. Arwain hyn ni at gwestiwn sylfaenol perthynas safonau moesol a beirniadaeth esthetig. Heddiw cwestiwn cyntaf y sensor yw pa effaith a gaiff ffìlm ar gynulleidfa, ac yn arbennig ar blant. Ffon fesur hollol ffals yw hon. Yn ddelfrydol gofyn a ddylai'r sensor a yw ffilm yn trafod ei thema yn onest. Nid gofvn a oes merch noeth mewn ffilm, a'i dorri allan os oes, ond gofyn yn hytrach a yw ffilm yn trafod y noethni fel rhan hanfodol o'i thema ac nid ei lusgo i mewn yn unig er mwyn denu cynull- eidfa. Y mae penderfynu hyn yn anos na barnu effaith ffilm ar blant. Ond dyna'r unig safon sylfaenol a'r unig ffordd i gael sonsoriaeth ag ystyr iddi. Mae Jean-Paul Genet yn enghraifft, ym myd y ddrama, o duedd wrthgyferbyniol. Pwysleisio'r agweddau erotig a wna ef. Ni fvnnwn i am funud weld dilynwyr Genet yn cipio'r llwyfan yn llwyr ym Mhrydain, ond credaf y byddai mabwysiadu tipyn o agwedd Genet yn gwneud byd o les. Nid galw am lanw o anfoesoldeb yn ein ffilmiau yr wyf, ond apelio am onestrwydd wrth wynebu bywyd yn ei gyflawnder. Byddai hynny yn iechyd i ddiwylliant yn gyffredinol. GWYN JONES. Cyhocddir gan y Golygyddion (Ficerdy, Iìhosybol, Sir Fon a Glaneilian, Llaneilian, Sir Fon) ac argraffwyd gan Sach'ville Printing Worl-s (Richard Thomas) Bangor,