Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BENNOD OLAF. (Epilog ddychmygol i gychwyn nofel John Gwilym Jones). ] Safai Meurig ar bont y pentref. Awr yr oedi ydoedd ar noson o hydref, yr awr åawel cyn machlud a chyfnos. Tywallt- ai'r fwyalchen orohïan ei hanthem o ben tŵr yr eglwys, ac yna arhosai, fel pe i ddisgwyl adlais o'r tawelwch cyn rhoi cynnig arall ar delori ei thonic sol-ffa. Tasgai'r prysgwydd yn nhanau'r gerddi-yna distawrwydd, ac arogl mawn a blodau mihangel yn drwm ar yr awel. Bob hyn a hyn, deuai trydar cwmwl o ddrud- wy ar eu taith i wifrau teligraff y cwmwd nesaf, ac yn yr wybren o'u hôl gwasgarent lonyddwch diadain, mud. 'R oedd dwyster y mudandod hwn fel eli ar ymennydd Meurig heno, ac eto llwyddai 'r un pryd i rwygo'i galon â rhyw hen wefr. Trwy fwg ei getyn gwelai haid o wybed yn troi fel planed uwch wyneb y merddŵr. Disgynnai ambell gangen aethnen i gyffwrdd â'i silwet yn yr afon, ac yna neidio'n gyflym yn ôl i'w 11e, yn union fel y byddai Guto'r Hendre ac yntau yn chwarae mig ar Marged Jones y Giat ers talwm. Mae'n siwr y gwyddai'r hen Farged yn burion pwy oedd wrth wraidd y direidi yn ei drws, ond ei bod hithau'n amyneddgar ac yn ddofn fel yr afon Cilan. 'R oedd brithyll o dan y bont. Gwyddai Meurig ei fod yno. Bu'n ei wylio ers meityn yn gwibio rhwng breichiau gwyrdd y chwyn dwr, weithiau'n ddisglair arian fel swllt-coroni'r-frenhines, weithiau'n bŵl fel ei feddwl yntau. Llerciai'r pysgodyn o dan gesail y cerrig, fel atgofion pell ei blentyndod. "Taid, deudwch amdanoch chi'n mynd i'r ysgol." Dyna ymbil olaf Hywel bach heno wrth ddringo ar ei lin a chocsio cael aros i lawr yn hwyr. Ond ni ddeuai dim yn ôl 'r oedd y cyfan ynghudd dan gwrlid y blynyddoedd. Ac aeth Hywel i'r gwely'n gynnar wedi'r cyfan. "No goods to order." Bu'r geiriau'n crogi'n felyn am flynyddoedd yn ffenestr siop ei dad, er na thalodd neb erioed fymryn o wrogaeth iddynt. Erbyn heddiw, dyna'r notis ar furiau, drws a ffenestr storws ei feddwl yntau. Yn ddeg a thrigain oed, 'r oedd y pethau bach, arwynebol wedi diflannu. Dim ond y gwirioneddau a'r egwyddorion oedd yn aros. Ni fedrai adrodd yn awr amdano'n mynd i'r ysgol. Yn ysbeidiol yn unig, fel fflach cen arian y brithyll, y deuai ambell atgof yn ôl i'w oglais i frcuddwydio. Sychu ei wyneb ar fore o aeaf, a'r dŵr oer yn llosgi ei lygaid, a theimlo drachefn yng nghynhesrwydd y lliain y lloches a gafodd un adeg yn ffedog sach 'r hen Shôs, angel-geidwad ei faboed. Plygu i glymu carrai