Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Arolwg. BARDDONIAETH. Cyfrol Newydd Parry-Williams. Ni chredaf fod cyhocddi ac ail gyhocddi'r ysgrifau a'r ccrddi hyn o waith yr Athro T. H. Parry-Williams yn ychwanegu dim at lwyddiannau'r awdur nac ychwaith at ein gwybodaeth o dym- heredd ei bersonoliaeth lenyddol. Cyfrol yn llawn ôl-brofiadau ydyw, ac o ganlyniad ail ystyriaeth o gyfangorff ei lên yw ein gwahoddiad ac nid adolygiad. Ni fwriadaf gyflawni'r gorchwyl yn llawn. Yn rhifyn Haf, 1955 o Llafar cyfeiria Mr. Saunders Lewis at ddylanwad Proust, Kafka a Huxley ar waith Parry-Williams. Temtasiwn bellach yw cyfeirio at weithiau Housman a Baudel- aire, beirdd a grybwyllwyd ganddo ef ei hun yn y ddarlith radio eleni. Cydnaws yn ddiau fyddai pesimistiaeth frodorol Housman â'i natur. Fe'n hatgofir am ryddiaith farddonol a dulliau llen- ydda rhai o'r Ffrancwyr hefyd gan ei weithiau cynnar yn nydd- iau'r profiadau ectasiol, y gweld a'r clywed angerddol, a'r trawsymffurfiadau rhyfeddol. Wedyn, hiraeth y cofio dadrithiol fel yn Cycles' Baudelaire neu rai o gerddi Paul Verlaine, bath- etig, sentimental. Megis y syniai'r Ffrancwyr am yr ymwybydd- iaeth ddynol, ac am werth y profiad personol, felly hefyd y gwna Parry-Williams. Creodd yntau ei fytholeg bersonol yn allanolyn rhonc. Nid bywyd-nos moethus-lygredig Paris, ond moelni aruthredd a bychan-bethau Rhyd-ddu. Pwy a wyr,' meddai yn Lloffion gynt na ddarfu i mi, ar ddamwain mewn chwarae, daro ar gyfrinach creadigaeth.' Tynnodd ei amgylchfyd i mewn i'w ymwybyddiaeth breifat a gadawodd ddarnau o'i hunan ar hyd a lled diarffordd ei amgylchfyd, gymaint nes gwneud darganfod y ffin rhyngddynt yn amhosibl. Llenor broydd y gorgyffwrdd yw Parry-Williams ar ei nodweddiadolaf, ac nid oes dim wedi newid os oes coel ar eiriau olaf ei gyfrol newydd lle y dywed Mae darnau ohonof ar wasgar hyd y fro.' ac yng ngorgyffyrddedd y profiadau hanner-daearyddol, hanner- personol hyn y deuir o hyd i'r gwahaniaeth sydd rhwng ei agwedd ef at bechod ag agwedd y Satanwyr. I'r Satanwyr, gyda'u cred mewn Pechod Absoliwt, realaeth sinistr oedd bywyd, a'i brydedd hanfodol yn ennyn ffieiddio ac ymostwng mewn addoliad annynol. I Parry-Williams nid yw realaeth pechod a phethau negyddol