Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I GVPAÍLL Ô FAfcíMÔ Fe awn am dro i'r iaith, fy nghyfaill mwyn, Lie mae y llwybrau'n goch gan gerdded gynt, Lle mae y galon glau yn chwyddo swyn Pob ymchwydd syniwyd ynddi, lawer hynt. Mae'r ffordd yn hir, a mwy nid oes Ond dyrnaid serog yn y nef. 0 wynt sy'n aflonyddu'r llwyf, ai gwynt ap Gwilym, Gwynt yr Ynad Goch, neu Islwyn, Kitchener ? Bydd sictod yn y gwair, ond daw'r haul llym I ralio'r gweddill syn. Gelwyddog galendar. O wridog galendar yn hwyr yr haul, Ond beth yw tywydd ffals ond problem byw. O bydded hir y daith, o goed yr iaith i'r dreflan binc, Heibio i'r tai yrbannaidd, ffatri'r llaeth Lle sugna'r tanc fel twll mewn sinc. Mae eto, gyfaill doeth, i ninnau faeth, Tra pery iaith a dynion, Ac ar ei fast bydd ddedwydd ceiliog gwynt. GLYNDWR THOMAS