Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Llenor a Gwleidyddiaeth Gan GWILYM PRYS DAVIES. EIN hamcan yw ceisio trafod ychydig ar syniadau cyfoes ein llenyddiaeth yn hytrach nag ar ffurfiau y grefft gain. Enillodd ein llenorion erbyn hyn enw gweddol dda am iaith ac arddull mewn rhyddiaith a barddoniaeth fel nad oes angen inni chwilio na chwyno am wallau a meflau yn y cyfeiriad yna. Cwyd ein cwyn yn erbyn ansawdd feddyliol ein llenyddiaeth. Cynnyrch syniadol ein llên a dyhn ein dagrau erbyn heddiw. Cymeriad a enillasom yn ddiweddar yw ein henw da am iaith ac arddull gain yn ein llenyddiaeth. Llanw a thrai yw ein hanes fel cenedl ym myd Uên. Crëwn ystormydd a chyffroadau crefyddol a chymdeithasol, a chymer amser cyn y meddiannwn ein heneidiau i allu mynegi ein profiadau a'n syniadau mewn llen- yddiaeth. Gwyddom mai cyfnod diffrwyth a gawsom ar ôl cynnyrch toreithiog cyfnod cynnar y Diwygiad Protestannaidd. Ni rydd llên y Diwygiad Protestannaidd ar ei orau fawr o rym yn ein balchder cenedl- aethol. Deallwn mai cyfieithiadau yw'r íynhyrchion bron i gytì o weithiau awdur- on estronol, a'u gogoniant inni erbyn hyn yw'r gwisgoedd teg a roddodd ein hen len- orion Cymreig iddynt. Ni ddarllenir mo- honynt mwy ond er mwyn eu hiaith lefn a'u hymadroddion disglair. Yng nghwt hwn daeth y Diwygiad Ymneilltuol a chyf- nod o drai llenyddol a gwyd wrid cywilydd i'n gruddiau gan ei lymder a'i hagrwch. Ar arweiniwyd ein cenedl ar ei hunion i'r tir diffaith. Daeth amser gwell gyda'r deffroad llenyddol a ddigwyddodd ar ddechrau'r ganrif bresennol. Adferwyd urddas ein hiaith a'n llên, pan ddechreuodd ein llen- orion a'n beirdd ganu a mynegi eu medd- yliau a'u profiadau mewn iaith a phriod- ddull a esyd ein cenedl yn uchel ymhlith cenhedloedd Ewrop. Er cystal yr hanes am ein llenydd- iaeth yn ail-flodeuo ac yn ymbrydferthu mewn ymadrodd a ffurf, eto ceir chwerw- der yn cronni ymhlith to ieuanc y genedl am na rydd fynegiant i fywyd heddiw ac i helyntion politicaidd ein hoes. Ymbleser- wyd yn rhy hir mewn math o ecstasi i foli ysbryd rhamantaidd y bywyd pell yn hytrach na thorchi llewys i wynebu bywyd fel y mae, ac i ysbrydoli'r genedl i wyneb- u r annhrefn foesol, economaidd a gwleid- yddol sydd yn ymdaith yn eu rhwysg yng Nghymru heddiw. Teimlir mai ynysoedd dihangol yw ein llenyddiaeth ddiweddar ar ei gorau. Dihengir rhag helyntion hedd- iw i ynysoedd dihangol ym myd hud a lledrith ein hen ramantau. Encilir iddynt am heddwch a thangnefedd ac am ddigon o oriau breuddwydiol a hiraethus. Car- wn ynysoedd hud ein hen lenyddiaeth, ond nid ohonynt hwy y daw'r nerthoedd i greu ynysoedd a fydd yn gysgod ac yn swcwr i'n gwlad a'n cenedl yn ystormydd gerwin y dyfodol. Clwyfir ein balchder gan orchwyl pleserus amryw o'n llenorion yn ceisio creu llenyddiaeth ar batrymau arbennig a safonau neilltuol, nad ydynt yn ddim gwell na chadwynau a phwysau gorthrym- us y gorffennol. Gwrthodwn gydnabod hawl ddi-amodol y gorffennol ar fywyd heddiw. Y mae'n rhaid i'r llenor ym- gnawdoli yng nghnawd ei oes a'i fro ei hun. Priod faes y llenor yw ei fywyd ef ei hun; a'i ddyletswydd bennaf yw ei ad- nabod ei hun ymhob agwedd, feddwl ac enaid. Y mae'n rhaid iddo feddu gafael sicr ar holl nwydau a doniau ei bersonol- ìaeth. Trwy adnabod ei fywyd ei hun yn gyntaf yr adnebydd bob bywyd arall. Daw i feddu adnabyddiaeth o wreiddiau