Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Prifysgol Cymru Parhad yw'r isod o'r drafodaeth a fu arbwnc Prifysgol Cymru yn rhifyn Tymor Mi- hangel 1946 o'r "Ddraig," cylchgrawn ColegPrifysgol Cymru, Aberystwyth. Gan bwys- iced y pwnc, gwahoddwyd myfyriwr o bob un o bedwar coleg y Brifysgol i fynegi barn ymhellach yn "Y Fflam." TECWYN ELLIS, Coleg Aberystwyth: Dywedodd y Dr. Thomas Jones yn 1929: "Y mae Cenedlaetholdeb yn bwnc llosg iawn yn Ewrop a bydd yn rhaid i chwi fyf- yrwyr benderfynu eich agwedd tuag ato mewn perthynas i Gymru." Gellir dweud erbyn hyn fod cenedlaetholdeb yn allu grymus sy'n gweithio mewn nifer cynyddol o Gymry. Y mae'n bwnc llosg ymhlith myfyrwyr Aberystwyth ar hyn o bryd. Gor- fodir rhai na theimlodd y cymhelliad i ym- glywed ag ef. Bwriwyd hwy i'r pair, a gwy- ddom mai'r Pair Dadeni yw. Ac nid agwedd ysbeidiol ar frwdfrydedd y dibronad yw'r diddordeb hwn. Y mae'r nodd a sugnodd llawer i'w hysbrydoedd crin allan o ddaear eu Cymreigrwydd yn anialwch y rhyfel yn peri i'r pren ddwyn ffrwyth. Oblegid hyn, nid anodd deall yr arwydd am sicrhau aw- yrgylch ffafriol ymhob cylch o fywyd Prif- ysgol fel y tyfo'r pren yn gadarn a ffrwyth- lon. A dyfynnu'r Dr. Thomas Jones eto: "Gwendid hyfforddiant prifysgol fel y prof- ais i ef yng Nghymru oedd na ddygid yr amryfal bynciau. gwahanol y mae gofyn eu hastudio at ganolbwynt cyffredin o'r lle y gellid edrych arnynt gyda'i gilydd fel y maent yn ymwneud â bywyd, â chymdeith- as, â'r wladwriaeth, ac â'r ddynoliaeth." Y mae hyn yr un mor wir heddiw, ond y mae'r angen yn fwy taer, a'r feddyginiaeth yn fwy eglur. Collwyd sefydlogrwydd, sicrwydd a ffydd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, ond ni fyn y Brifysgol gydnabod ein hymdeim- lad o'n cenedligrwydd fel grym i'w huno ei hun a chyfanu cymdeithas ar chwâl. Yn Llys y Brifysgol yn ddiweddar dywedwyd mai "ein dyletswydd ni at Gymru yw bod yn Brifysgol drwyadl dda." Wrth hyn gol- ygir meistrolaeth dechnegol, trwyadledd yr arbenigwr, trylwyredd mewn testun, a gwy- bodaeth adrannol. Ofîeiriad y "gwareidd- IEUAN LLEWELYN JONES, Coleg y Brifysgol, Bangor: Aeth hanner canrif heibio bellach er pan sylweddolwyd dyhead y werin Gymreig o TRAFODAETH « Y GOLYGYDDION. iad" cyfoes yw'r sawl sy'n lladmeru swydd- ogaeth Prifysgol yn y modd hwn. Safbwynt sy'n gyfleus i wladwriaethau totalitaraidd yw, oblegid gwr diymgeledd yw'r gwybodus- yn diargyhoeddiad. Byddai ysgolheictod pur ar ei fantais ped ymdeimlai'r Brifysgol â'r cymhelliad cenedlaethol. Gall diffyg ffydd yng nghyf- lawniadau Cymru mewn maes arbennig luddias ymchwil effeithiol. Ni raid ailad- rodd yma yr hyn a ddywedwyd eisoes gan Mr. Hywel D. Lewis a'r Dr. Gwenan Jones. Ni ddichon y sawl sydd â'i fryd ar ysgolheic- tod pur beidio â bod ar ei ennill o ddarllen yr ysgrif "A ellir Prifysgol i Gymru"? yn yr 'Efrydydd,' Haf 1946 yn enwedig yr ad- ran "Ymchwil am Wybodaeth." Cydnabyddir cyffredinolrwydd ac ehang- der dysg mewn Prifysgol, ond cyfyngir y ddysg honno i gymdeithas dan amgylchiad- au neilltuol. Daeth y dydd i'r gymdeithas Gymreig hawlio bod y Brifysgol a gysyllt- wyd â hi mewn enw yn cyfoethogi ei diwyll- iant arbennig hi ymhob agwedd arno, ac yn datblygu'n geidwad ac amddiffynfa i'w bywyd. Hyd yn hyn gwrthodwyd y cyfrif- oldeb, a gwell oedd gwrthod na derbyn yn anystyriol. Cyn bo hir bydd yn rhaid der- byn; amgyffredir y gwaith yn llawnach wedi'r gwrthdaro anochel sy'n dyfod. Dywedir yn un o rifynnau "Cymru" am y flwyddyn 1902, wrth sôn am apwyntiad y Prifathro T. F. Roberts, na allesid anghofio mai Cymreigrwydd Aberystwyth a barodd i'r coleg fod mor llwyddiannus. Barnwn ninnau na all y Brifysgol heddiw ychwaith fwrw hyn dros gof heb iddi ei niweidio ei hun a throi "yn golled drom i gyd" i'r genedl. Ni fynnwn y naill oherwydd ein i berthynas agosach â Chymru. dyled iddi fel y mae, na'r llall oblegid heb- ddi hi amddifaid fyddem. goroni ei chyfundrefn addysg â phrifysgol. Heddiw, pan fo llawer o sôn am drefnu ac