Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ta'cu ceir pryd da o chwerthin, ac yn yr awyrgylch hwnnw y daw'r llen i lawr, eithr trasiedi sydd yfha'n wir. Nid yw gwrthod galwad i Fetws y Coed ac aros yn y Rhon- dda yn cryfhau dim ar y fargen nac yn gwella'r mymryn lleiaf ar gymeriad Dan. Ond nid oes neb yn y ddrama'n gweld hynny. Wrth Dan y dylasai Idwal achwyn ei gŵyn, ac nid wrth Dilys. Dyna lle'r oedd asgwrn cefn y ddrama. Ond dewisodd Mr. Harris ei osgoi a rhoi inni ddau gymeriad byw, tri phlaen, a deialog ysgafn a doniol ddigon. A phan anfonodd Mr. Harris hi i gystadleuaeth Drama Fer Eisteddfod Genedlaethol Y Rhos — lle'r enillodd y wobr gyntaf-cafodd gan y Dr. W. G. Richards ei throi i dafod- iaith fyw ardal Hirwaun a'r Rhigos, er iddo lwytho'i gyfieithiad yn ormodol â'r ymad- rodd Saesneg a glywir ar dafod y to iau sy'n codi yno. Gwyr o'r un ardal sydd gan Eynon Evans yn ei 'Prize Onions,' ond y mae tipyn o wahaniaeth rhwng iaith Eiddwen a Chymraeg glân Martha yn nwylo D. J. Williams. Mae'n werth ei llwyfannu, ond pan ewch ati awgrymaf eich bod yn ymgynghori â'r awdur ac yn chwynnu tipyn ar dudal- ennau 15-17. Bargoed. EIC DAVIES. DYDDIADUROL. CALENDR COCH, gan W. Ambrose Bebb. Gwasg Aberystwyth. 1946. Tt. 83. 2/ Mae'n bur debyg y bydd hwn yn ddogfen bwysig i'r sawl a fynno ym mhen hanner cant neu gant o flynyddoedd sgrifennu hanes gwleidyddol Cymru, neu hanes y Blaid Genedlaethol ac i'r hanesydd hwnnw, efallai mai'r 72 tudalen cyntaf, sy'n adrodd hanes ymgyrch Mr. Bebb yn Etholiad Cyffredinol 1945, a fydd fwyaf gwerthfawr. I ni heddiw, braidd yn rhy undonog yw'r tudalennau hynny, ac ni chawn ddarlun digon man- wl o'r mannau y bu Mr. Bebb ynddynt, na darlun digon clir o'r ffordd y ceisiwyd cyflwyno achos ei Blaid. Cadarnhau'r argrah gyffredinol a oedd gennym eisoes a wna'r hanes hwn,-argraff fod pobl yn gyffredinol yn ddifraw a heb ddiddordeb mewn gwleid- yddaeth, eu bod yn barod i wrando ar siaradwyr da, ond eu bod yn amharod i gymryd eu hargyhoeddi gan neb. Mae'n drueni er mwyn gwerth IIenyddol llyfr Mr. Bebb na buasai mwy o wrthwynebiad tanbaid a gwrthddadlau i adrodd amdano, ond yr oedd creu cefndir o ddiflastod yn anhepgor er mwyn gallu deall y Diweddglo, y rhan bwysicaf o'r llyfr i ni heddiw, lle y ceisir dehongli methiant y Blaid Genedlaethol yn yr Etholiad, a dadansoddi'r camgymeriadau a wnaeth hi'r adeg honno a chyn hynny. Ni cheisiaf grynhoi'r Diweddglo hwn, gan ei fod yn ddigon byr i'r dyn prysuraf ei ddarllen; ac ni cheisiaf ei drafod, gan fy mod yn credu fod ei ddadansoddiad yn hollol gywir. Ond llawenychaf yn fawr o weld beirniadaeth mor aeddfed; a llawenychaf yn fwy mai un o sylfaenwyr y Blaid a'i sgrifennodd. Aberystwyth. DAFYDD JENKINS. LLYFR ANRHEG "Y DDOLEN," Cyfres y Cofion. Cyhoeddwyd dros Undeb Cymru Fydd gan D. R. Hughes, Hen Golwyn. Gwasg y Brython, Lerpwl. 1946. Bu nifer ohonom fel cyn-filwyr yn achwyn droeon am y gwendid amlwg a fu, ysyw- aeth, yn ystod y rhyfel 1939-45 yn y cysylltiadau rhwng Cymru a'i phlant ar wasgar yn y Lluoedd Arfog. Teimlem mai ymdrechion ysbeidiol ydoedd y rhai a wnaed yng Nghymru er ceisio cadw'r gyfathrach hon yn fyw, a bod angen dirfawr am ganoli'r holl waith a oedd yn berthnasol i'r alltudion. Yn wir, gellid honni mai'r unig beth cyson a ddaeth allan o Gymru at ein gwasanaeth fel Cymry yn y Lluoedd Arfog ydoedd y cylchgrawn bach Cymraeg deniadol hwnnw "Cofion Cymru," a gyhoeddwyd yn fisol dan nawdd Undeb Cymru Fydd. Er y teimlai rhai ei fod yn rhy lenyddol ei arddull, bu y "Cofion" serch hynny yn gyfrwng pur effeithiol i daflu dwr oer, 1el petai, ar wefusau sychedig llawer alltud o Gymro a hiraethai am gyswllt â'r wlad a'i magodd ac â'r iaith a dyfodd gymaint anwylach iddo wedi hwylio. "tu hwnt i'r llen." Y gwir alltud yn