Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ceisiodd yr awdur sgrifennu iaith safonol ,eithr ceir llawer o briod-ddulliau'r Saes- neg: "Mae'n syniad, wyddoch," "sefyll sioc," ac eraill. Hefyd defnyddir dau ystyr 'pryd' i chwarae ar y gair. Eithr onid oes i 'Pryd?' (When) a 'Pryd?' (A meal) wahánol oslef fel na ellir camddeall y gair fel y gwneir yma. Ceir brychau eraill hefyd; defnyddio 'cychwyn' yn lIe 'dechrau' ("dechrau canu, dechrau canmol", onid e?); ansicrwydd wrth ddefnyddio amser amherffaith berfau; ac onid yw "Faint o'r gloch"? yn Gymreiciach priod-üdull na "Beth yw'r amser"? i lenor sy'n sgrifennu iaith safonol. Ac un peth arall. Wrth dreiglo berfau, defnyddia'r Gogleddwr 'Mi' o flaen pob ffurf bersonol. Defnyddia'r Deheuwr 'Fe'. Fe'u cymysgir yn y ddrama hon: "Fe dderbyniai i". "mi wellodd." Oni all ein dramawyr gytuno i ddefnyddio 'mi' gyda'r person cyn- taf a 'fe' gyda'r trydydd? Ni cheisiaf ddeddfu ar gyfer yr ail berson! Na thybied neb nad oes rinweddau yn y ddrama. Ei phwyso ar y gair printiedig a wnaethpwyd ac nid ar ei gweled ar lwyfan. Hon yw'r ail ddrama i Mr. Turner ei chy- hoeddi, a dengys ei fod yn ddigon medrus yn y grefft i sgrifennu dramâu teilwng iawn. Eithr teimlaf y llwyddai'n well pe dewisai ddeunydd nad yw lawn mor afnormal a deunydd "Fy Mab Hwn." Llandudno. GRIFFITH JOHN JONES. GRAMADEG GKAMADEG CYMRAEG, gan J. J. Evans. Gwasg Aberystwyth, 1946. Tt. 296. Fris 8/6 Ni wyr ond a ymgymerodd â'r gorchwyl gymaint o lafur a gwybodaeth a dyfalbarhad a ofynnir ar law y gŵr a ysgrifenno ramadeg. A phan fo'n bwnc o lunio gramadeg yr iaith Gymraeg yn Gymraeg dyblir y problemau a'r anawsterau. Canys hyd yn hyn ni chafwyd gramadeg Cymraeg wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg ac yn ymdrin â'r tair ad- ran, Seinyddiaeth, Ffurfiant a Chystrawen. Saesneg-yw "Welsh Grammar for Schools" Edward Anwyl; Saesneg hefyd ýw tri llyfr pwysig Syr John Morris-Jones, "A Welsh Grammar" (hanesyddol ac yn disgrifio'r iaith ymhob cyfnod ond yn cynnwys Seinydd- iaeth a Ffurfiant yn unig), "An Elementary Welsh Grammar" (talfyriad o'r llyfr cyntat gan gyfeirio at yr iaith ddiweddar), "Welsh Syntax" (llyfr anorffen ar gystrawen y rhannau ymadrodd gan mwyaf). Yr oedd gwir eisiau gramadeg yn Gymraeg ar yr ys- golion a phob dyledus glod i Mr. J. J. Evans am ymgymryd â'r gwaith. Llyfr cynhwys- fawr sydd ganddo a'r cynllun cyffredinol yn haeddu clod, sef rhoi cystrawen y rhannau ymadrodd megis enw, ansoddair, rhagenw, berf, &c. yn union ar ôl eu ffurfiant, a chys- egru adran ar ddiwedd y llyfr i gystrawen y frawddeg. Cyfynga'r awdur éi sylw i'r iaith ddiweddar gan mwyaf, a da hynny, canys mynd ar gyfeiliorn a wna yn aml wrth ymhel â datblygiadau hanesyddol. Yn wir y mae mwy nag un paragraff yn codi am- heuaeth ai cymwys yr awdur i gyfansoddi gramadeg i'w roi yn nwylo plant ysgol. Carwn dynnu sylw at rai pwyntiau cyffredinol cyn mynd at y manylion. Yn gyntaf (ond nid ar Mr. Evans y mae'r bai am hyn) anfoddhaol iawn yw crefft argraffu'r gyf- rol. Ni ellir disgwyl perffeithrwydd Gwasg Rhydychen â'i thraddodiad hir yn y gwaith hwn, ond dylasid bod yn fwy gofalus ynglyn â dewis gwahanol fathau o deip at lyfr gramadeg. Ni threfnwyd y tudalennau yn dda a buddiol fuasai rhoi cynnwys pob tu- dalen uwch ei ben yn lle ailadrodd "Gramadeg Cymraeg" yn ddianghenraid. Disgwylid Mynegai llawer llawnach na'r un a geir. Ni ddeallaf pa egwyddor oedd gan yr awdur wrth roi ei ddyfyniadau a'i enghreifftiau. Anodd gweld diben rhoi enw awdur heb nodi'n fanwl o ble y daw'r dÿfyniad, yn enwedig pan roddir pennod ac adnod yr eng- hreifítiau o'r Beibl. Bellach y manylion. Onid enillodd 'goddrych' ei blwyf erbyn hyn fel term am 'sub- ject' gramadegol? Cloffi rhwng 'goddrych' a 'thestun' a wna'r awdur gan ddefnyddio 'testun' fynychaf. Felly hefyd gyda 'dibeniad' a 'thraethiad.' Onid 'traethiad' yw'r gair gorau am 'predicate'? Nid oes dim sy'n waeth i blant na gwamalu fel hyn.