Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cymhlethdodau'r Beirdd Gan D. JACOB DAFIS BWRIADWYD darlledu'r erthygl yma fel atodiad i'r gyfres ragorol 'Y Bardd yn ei Weithdy.' Yn anffortunus, fodd bynnag, digwyddodd diffyg techneg- ol, sef oedd hynny, ddarfod i'r cyhoedd- wr lyncu'r pips wrth fwyta'i eiriau. Rhaid cyfaddef ein bod yn ddyledus i'r Pryfardd Ap Pesgyn am gydweithio â ni mewn nifer o arbrofion er ceisio datrys dirgelion Barddoniaeth. Ac er bod gan- ddo ei fisolyn preifat ei hun, 'Y Fflach- ìwt,' bodlonodd i ni gyhoeddi a ganlyn yn eich cyhoeddiad clodwiw chwi. Y mae yn hysbys fod bwyd yn effeithio ar yr awen, er enghraifft, ar ôl pryd o fara planc, ceir blanc fers; rhowch sosej i fardd ac y mae yn mynd i'w gwd, ac ar ôl stêc a wynwns mae tuedd i fod yn hir- wyntog. Yn wir mae un o'n beirdd modernaf wedi cyfaddef y dylanwad drwy alw ei gyfrol farddoniaeth yn 'Cinio ar Cythral.' Yn gyntaf oll rhoddwyd pryd o gawl cennin i Ap Pesgyn a gofynnwyd iddo gyfansoddi yn union ar ei ôl. Sylwer fel mae'r cennin wedi effeithio ar ei gyfan- soddiad, Wele'n cychwyn dair ar ddeg O siroedd bach yng Nghymru deg, Ond wedi cael Comisiwn Ffiniau Mae un yn brin yng Ngwlad y Bryniau. Mae'r genhinen, fel y gwelir, yn dwyn yr elfen wladgarol i'r golwg. Sylwch hefyd ar gynildeb y gân, hynny yw, rhoi llawer mewn lle bach. Darganfûm yn ddi- weddarach fod yr Ap wedi bwyta bocs o sardins i frecwast a dylanwad hwnnw yn codi o'r isystumog. Yn ail, cafodd Ap Pesgyn lond plât o 'Welsh Rarebit' ac wele'r canlyniad, O na bawn yn Tomi Trybl Yn crwydro'r byd tu fewn i fybl. Enghraifft deg o'r elfen Manglo-Welsh, neu i ddefnyddio gair cynhwysfawr a disgrifiadol o'r holl broses — Dylanwad. Wel, mi gysgodd y bardd yn drwm ar ôl yr ymdrech hon, ac er mwyn ei ddeffro rhoddais gwpanaid o goco iddo, ac yn wir, mi ddrysodd ryw ychydig, fel y dengys yr ymson a ganlyn, Dwyn mae coco o flaen fy llygaid Noson Lawen Bangor Fawr. Coco, co co bach. Mi ddeudais i wrso Co bach am powri môr dros wal Castell Camafron, ia; I weld splash, ia; Ond neiso hen fodan i fam Fel odd blaidd yn stagio Ar mochods bach drw ffenast, Hog a sei, niwc a mag Niwc a mag, hog a sei. Dyma fe'n deffro o'r llesmair, dyma fe'n codi, dyma fe'n dechrau eto, ac y mae'n amlwg fod y coco wedi cael dylanwad trwm arno, Ia, Ia, Ar y Congo lle nad oes un trac A dynion yn ddu fel y blac, Mae'r pennaeth M'Bwmba Yn dawnsio ei rwmba Dan ganu Mw Mw, Me Me a Cwac Cwac. Wedi profi effaith bwyd ar farddoniaeth gyfoes aethpwyd ar drywydd dylanwad arall, sef dylanwad man a lIe. Rhodd- wyd y bardd mewn gardd yn Aberdâr lIe gwelodd fachgen yn dal ieir bach yr haf mewn gwely cabaits, 5