Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

'Pa Beth Yw Dyn ?' Gan TREVOR PHILLIPS, Hwlffordd, Penfro JOHN EYANS— LADIES OUTFITTER DYNA mewn ysgrifen fras .amryliw a gyhoeddai i bawb natur masnach y siopwr cefnog hwnnw. Y mae'n wir bod ganddo adran fechan lle y gwerthid dillad dynion a phlant ysgol, ond yn ei ffenestr "Lingerie" yr oedd yr apêl; a ddawn â ffasiynau diweddaraf Paris mewn "brassieres" a chwyddodd ei gyllid nes creu'r syniad fod John Evans yn un o gyfoethogion ei ddydd. Pe digwyddai i chwi ei weld, prin y byddech yn ei restru'n ŵrbusnes; yr oedd rhywbeth dieithr cyfrin yn ei drem a'i osgo. Yr oedd ei gorff yn lluniaidd, yn tueddu, efallai, i fod yn drwm, ambell flewyn brith yn ei wallt melyn crychiog, ei wefusau yn llawn, tra oedd ei lygaid gleision yn awr yn eigion o freuddwydion annelwig ac eilwaith yn dân eirias o deim- lad. Ac yna'r dwylo cadarn artistig, a'r bysedd meinion a oedd o hyd yn anwylo rhywun neu rywbeth beunydd. Llawer gwyryf a'i suodd ei hun i gysgu'n breu- ddwydio fod y dwylo esthetig yma yn ei hanwylo, ond dim ond breuddwyd fu hynny, oblegid aeth John Evans i'w fedd heb gyffwrdd ohono â gwraig. Yr oedd yn flaenllaw iawn yng nghapel y Methodistiaid yn y dref, yn athro dos- barth o fechgyn ifainc yn yr Ysgol Sul, yn Arweinydd y Gân, ac yn ddiweddar gwnaed ef yn flaenor. Dyna oedd ei haeddiant, nid yn gymaint oherwydd ei hanner can punt bob blwyddyn at y weinidogaeth, ond oherwydd ei ymrodd- iad diflino gyda'r bobl ieuainc ar hyd y blynyddoedd, Erbyn hyn cydnabyddid ef fel hen lanc, ac eto ni allai pobl lai na gofyn beth oedd yn rhwystr iddo gymryd gwraig. "Mae yr hen walch yn rhy barticiwlar," meddai un. Arall, "Bu bron â phriodi Bidi Hicks ryw ddeng mlynedd yn ôl," tra sibrydai rhai rywbeth am "breach of promise case." Ond dai yn ei wyryfdod a wnâi John Evans, er holl glonc yr hen ferched a breuddwydion yr ifainc. Afraid dweud nad oeddynt wedi deall na nerth na gwendid dyhead ei galon. Un prynhawn Sadwrn gwelwyd hogyn ieuanc yng nghwmni ei dad yn prysur ddewis siwt newydd yn siop John Evans. Pan oedd y drafnidiaeth bron ar ben a'r siwt newydd yn cael ei phacio, daeth y perchennog ei hun i mewn. Tynnwyd ei sylw ar unwaith gan wynepryd golygus yr hogyn, a chyn pen eiliad yr oedd wrth ei ochr ac yn holi rhyw fanylion ynghylch y siwt, tra rhedai ei fysedd yn ysgafn drwy ei wallt cyrliog du a thros ei foch-boeh welw ond cyn loywed â grisial. Syllai'n fanwl ar yr wyneb geneth brydferth a'r corff merchetaidd. Cymerodd John Evans at bacio'r siwt, a rhoddodd dei newydd goch i mewn yn lwc, ac yr oedd rhyw olau peryglus yn ei lygaid am foment pan wyl- iai ei gwsm,er ifanc yn mynd allan drwy'r drws. Yna trodd ar ei sawdl ac yn ôl at y "lingerie." Ryw fis neu ddau yn ddiweddarach daeth yr un golau i'r llygaid dyfnion pan sbiodd y siopwr o'r tu ôl i un o'i fodelau ar hogyn diniwed yn croesi'r stryd ac yn agosáu at y siop. Pan ddaeth gyferbyn