Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y Beirdd a'r Bobl Gan J. M. EDWARDS Y MAE,N debyg y cytunid yn weddol gyffredin ar bwysigrwydd cyfraniad y bardd i ddiwylliant ei gymdeithas. Pwy na chyfaddefai hefyd fod bywyd ein cyd-ddynion yn gyfoethocach oherwydd y cymeriad newydd a rydd y bardd i'w profiadau a'u teimladau? Ond wedi dweud hynyna, fe ellir gofyn hefyd gyda phob dwyster, i ba nifer ohonynt y mae ei waith yn arwyddocáu rhywbeth mewn gwirionedd? Fe glywn gwyno'r dyddiau hyn fod gwaith llawer o'n beirdd yn dywyll ac an- odd ei ddilyn. Hefyd bod cylch y rhai sy'n gwerthfawrogi barddoniaeth gyíoes yn lleiháu. A'r canlyniad yw, meddir, fod yna fwlch mwy amlwg rhwng y bardd a'i wrandawyr. Fe geir rhai'n hoff o ddannod inni'r cyfnod pan wisgai barddoniaeh amdani wisg fwy gwerinol, gwisg oedd a'i deunydd o frethyn cartre', fel petai,-hynny yw, ei bod hi'n cael ei hysgrifennu mewn iaith ddealladwy beth bynnag, ac y darllenid hi â mwynhad gan bob un llythrennog. Ond erbyn heddiw, neu felly y cwynir, ymddieithriodd y bardd lawer iawn oddi wrth feddwl n bywyd y bobl. Danodir iddo ei fod yn rhy barod i sôn am beth- au sy'n aml iawn y tu allan neu'r tu hwnt i'w hamgyffred a'u profiadau cyffredin. P'un bynnag a gytunwch chi ar faint o wir sydd yn yr haeriadau hyn, sy gwest- iwn arall. Ond a chaniatáu fod rhyw gymaint, yna ymha Ie y gorwedd y diffyg tybed? Ai yn agwedd y bardd ei hun, -a yw hwnnw wedi newid? Ai yn ni- faterwch unigolion? Ai rhywbeth sy'n dilyn yn ôl llaw ddiffyg brwdfrydedd ys- golion tuag at y gangen hon o lenydd- iaeth? Efallai fod nodweddion y gym- Trwy ganiatâd y B.B.C. deithas fodern yn ei gwneud hi'n fwy an- odd ymgyfathrachu â'i waith. Fe gred y critig adnabyddus Herbert Read fod llawer o felltith a thrueni bywyd y byd yn awr yn bod am nad yw cynedd- fau teimladol a dychmygol y plentyn yn cael chwarae teg i ddatblygu'n gyflawn. Rhoir pob cyfle i ddalliau o feddwl rhes- ymegol a materol, pethau sy'n treisio eg- wyddorion cydbwysedd, ceinder a rhythm, sef hanfodion trefn y cyfanfyd. Ond i ddychwelyd. Dywedwch éin bod yn barnu wrth nifer y cyfrolau barddon- iaeth a ymddangosodd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma, dy- weder, yna nid yw pethau yn ymddangos cynddrwg,— nid yw'r sefyllfa'n anobetth- iol o bell ffordd. Ond petaech yn mynd ati i chwilio'n fanwl i gylchrediad y cyt- rolau hyn, synnwn i ddim nad digalonni a wnaech ohi eilwaith. Ai nid cylch o ddarllenwyr dethol yw'r rhain wedi'r cyi- an? Ai nid yr un cyhoedd ffyddlon a chyfyngedig sy'n dal i brynu a darllen llyfrau barddoniaeth o hyd ac o hyd? Ac nid yw'r awdur yn sicr wedyn y bydd ar- wyddocâd llawn ei waith yn golygu rhyw- beth hyd yn oed i'r rheiny, os mai ei ddarllen yn arwynebol yn unig a wnânt. Ond efallai wedi'r cyfan mai dyna'r ymateb naturiol, ac mai nid peth poblog- pdd felly yn ôl tí natur yw prydydd- iaeth. Ond arhoser eto. Efallai ei bod hi'n bosibl er hynny ennyn diddordeb a gwerthfawrogiad,- nad peth i'w anwyb- yddu neu ei ddirmygu yw ffrwyth awen bardd am nad yw'n "boblogaidd" yn ein hysyr ni i'r gair. Pa siawns sy gan y baidd felly i gyr- raedd yr adran honno o gymdeithas nad