Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Everest (Mehefin 8, 1924. Oddell yw'r gwyliedydd). Yn ddisymwth wele'r awyr yn glir uwchben A gwelwn ben-arglwydd trahaus copäon daear Yn saethu fry, Ac ar ei esgair olaf, lom, Ddau frycheuyn pitw Yn eglur loywddu ar lwydni'r crcad Dcuddyn o gig a gwaed yn ymlusgo'n araf lafurus Dan faich eu lludded m. rwol Odditanynt y glas ddyfnderoedd A'r un gwyliedydd O'u blaen anhygyrch nod eu hymgysegriad gwyn Yn elyn didrugaredd o graig ac ia Wyth canllath ar i fyny. Gwyliwn eu hymgripio poenus, Synhwyrwn orfoledd eu hesgyrn Am ysbaid fer. Taenodd niwl tenau dios y grib, Hwythau am ennyd yn fodau rhithiol tu hwnt i'w len, Megis duwiau dieithr ar bell rodfeydd yr awyr, Cyn eu cipio o'r golwg gan gaddug. Nis gwelwyd mwy. Heddiw fe gwyd y mynydd Yn ei ysblander unig A'i anghymod hir Gan aros a disgwyl. W. J. BOWYER.