Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

92. Canor Dirwestol-Williams 93. Roberts Caniadau y Cyssegr 94. Hughes' Telyn Gymreig 95. Williams Salmydd Cenedlaethol neu Salmydd Cymreig 96. Joseph Jones Per Ganiedydd 102. Cydymaith yr Addolydd 113. Ceinion Cerddoriaeth 116. Mills Cerddor Dirwestol 118. J. D. Jones-Cerub 130. Cerddor Gwreiddiol-T. Jones 135. Ceinion Cerdddoriaeth Vol. 2 139. Swn Addoli-Richards 144. Revd T. Jones Vicar Pwllheli Church (Welsh) Tune Book 145. Mills' Cerddor yr Ysgol Sabbothol Aberystwyth J. ELLIS WYNNE DAVIES эь 5. Rhagor am Donau a'u Hawduron. Sef atodiad i'r gyfrol Tonau a'u Hawduron a gyhoeddodd Mr. Huw Williams yn 1967. Cyhoeddwyd y gyfrol hon eto, fel ei rhagflaenydd, gan Lyfrfa'r M.C. yng Nghaernarfon, yn 102 o dudalennau, a'i phris yw 15/ Gwnaeth yr awdur "ymchwil bellach i hanes amryw o'n tonau a'u cyfansoddwyr," a manteisiodd hefyd "ar rai awgrymiadau buddiol a wnaethpwyd gan ambell un a fu'n adolygu Tonau a'u Hawduron." Cywirwyd ambell osodiad yn y gyfrol flaenorol, ac fe helaethwyd y sylwadau ar rai o'r tonau. Ceir nodiadau byr (a rhai yn fwy cynhwysfawr) yn y gyfrol hon ar 404 o donau, ac fe ddengys hynny faint y llafur a aeth i mewn i'r atodiad. Bydd yn rhaid i'r sawl a bwrcasodd y gyfrol gyntaf brynu hon hefyd. Y mae diwyg ac argraffwaith y gyfrol yn lân a destlus. Llongyfarchwn yr awdur ar ei waith. G.M.R. 6. Hen Gasgliad o Emynau, 1748. Amcan y nodyn hwn yw ceisio gwybodaeth bellach, a llawnach, am gasgliad bychan o emynau sydd yn fy meddiant ers rhai blynyddoedd. Cyfeirir ato gan William Rowlands, Llyfryddiaeth y Cymry, rhif 8, dan y flwyddyn 1748. Nodir ganddo dri llyfr, sef (1) Darluniad o'r Gwir Grístjon, &c., wedi ei argraffu gan Joan Olfir, Llundain, yn 1748; (2) Myfyrdodau Difrifol ynghylch Dioddefaint Cri§t, &c.; a (3)