Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd: Y Parch. Gomer M. Roberts, M.A. Gorff. Rhif 4. Llandylbïe, Sir Gaerfyrddin. 1971. NANTLAIS: EMYNYDD (1874-1959)* CEFAIS ryddid i ddewis testun. Bûm yn petruso rhwng tri: 1. Golygu llyfr-emynau plant a phobl ieuainc-o brofiad hyfryd cyd- weithio â'r diweddar Mr. John Hughes, Dolgellau, ar Mawl yr Ifanc (Undeb Bedyddwyr Cymru, 1968). Bu gwaith Mr. Hughes o blaid yr Eisteddfod Oeinedlaethol yn enfawr. Bernais, er hynny, fod naws braidd yn enwadol i'r testun, er i'r llyfr fod yn fwy cyd-eglwysig na nemor un a gyhoeddwyd yng Nghymru. 2. Emynwyr Bro Eisteddfod 1970. Nid oedd prinder. Yn y daflen, Teyrnged i awduron ac emvnwyr Rhydaman aV cylch, y cyflwynwyd eu gwaith mewn Arddangosfa yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru vn Rhydaman, fis Awst, 1970," a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Sir Gaerfyrddin, rhestrir ugain o Emynwyr," yn benodol. Gellid yohwanegu atynt. 3. Yna Nantlais. ac o'i ystyried ef o ddifrif, a gweld maint, ac amrywiaeth a rhagoriaeth ei waith, cefais fy nghymell i'w astudio ef yn unig. Dyna, felly, NANTLAIS: EMYNYDD. Haedda Nantlais yr awr hon iddo'i hun; mae'n ddigon pwysig, heb un amheuaeth, a hyfrydwch yw cael siarad amdano yn Bethany,' y capel sy'n gofadail iddo, a chael côr plant o'r eglwys a'r ardal i ganu rhai o'i emynau, dan arweiniad un a fu'n gwasan- aethu yn adran caniadaeth y cysegr yn ystod ei weinidogeth. Sylwais fod awdurdodau'r Eisteddfod ei hun yn cydnabod Nantlais. Ar y triongl glas ag enwau enwogion arno ar un ochr i'r llwyfan mae "Nantlais Willi.ams." (Gallesid hepgor y "Wil- liams yn Rhydaman.) Yn y seremoni agor fore Llun yr eistedd- fod yr oedd Côr Plant Ysgolion Cynradd y cylch yn canu dau ddarn, a'r naill a'r llall, os sylwasoch, yn "rhydd-drosiad" gan Nantlais-Non Nobis Domine Roger Quilter, a Llunwyr Cerdd Martin Shaw. (Er mor draddodiadol yr oedd Nantlais yn ei *Anerchiad a draddodwyd yng Nghyfarfod Cyhoeddus Cymdeithas Emynau Cymru yn Bethany/ Rhydaman, 5 Awst, 1970.