Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. I. Golygydd: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 5. Llandybïe, Sir Gaerfyrddin. 1972.: YR EMYN FEL LLENYDDIAETH Y mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng agwedd Haneswyr Llen- yddiaeth Saesneg a Haneswyr Llenyddiaeth Gymraeg at emynau ac emynwyr. I'r Saeson mae'n amlwg fod Ue emynwyr yn oriel eu beirdd yn un amheus a simsan a dadleuol iawn. Yn A Critical History of English Poetry (Gnerson a Smith), sy'n gynhwysfawr arbennig, dim ond rhyw gyfeiriad crintach a geir ar Isaac Watts a John a Charles Wesley. Dim ond enwi rhai fel Philip Doddridge a Toplady a Heber a thra'n gwerthfawrogi gwaith seciwlar William Cowper mae'r agwedd at ei emynau, a dweud y lleiaf, yn nawddogol. Ar ôl cyfnod o wendid meddwl cafodd Cowper dröedigaeth, wedi ei achub gan waed yr Oen, fel y dywed, a'r Trugaredd Tragwyddol. Cyhoeddodd ei Olney Hymns. Dyma gyfeiriad Grierson a Smith atynt: "Had the mood lasted we should have had only hymns, pious letters, and the more didactic portions of the longer, if these at all," gyda'r awgrym amlwg o "Diolch byth na pharhaodd y cyflwr hwn!" Ni ellir osgoi John Donne a George Herbert, wrth gwrs, ond yn gyfrwys iawn fe'u disgrifìr fel beirdd crefyddol nid emynwyr. Nid emyn yw "A Hymn to God the Father" (John Donne). Cyfeirir at hon eto. Ni cheir chwaith, ond gydag eithriadau arwyddocaol o anaml, yng ngweithiau beirniaid llenyddol, draethodau ar emynwyr ac emyn- au. Fel y dywedwyd ni anwybyddir y Beirdd Metaffysegol na Milton ond tynnir llinell derfyn ddiamwys iawn rhwng barddon- iaeth grefyddol ac emyn. Yr enghraifft glasurol o feirniad o'r fath yw Dr. Johnson. Mae ei agwedd ef yn eironig i'r eithaf. Nid rhagfarn yn erbyn crefydd a duwioldeb sy'n bennaf gyfrifol am ei safbwynt sy'n bychanu'n feimiadol farddoniaeth grefyddol a'r emyn *Anerchiad a draddodwyd gerbron Cymdeithas Emynau Cymru, yn Eglwys Llandygái, adeg Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 3 Awst, 1971.