Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd Y Parch. Gomer M. Roberts, M.A., Gorff. Rhif 10. Llandybïe, Dyfed. 1977. DAFYDD SIENCYN MORGAN A JOHN THOMAS* Pan ddaeth Peter Williams ym 1745 i Langrannog, yr oedd yno glochydd o'r enw Jenkin Morgan. Yn ôl Benjamin Williams {Gwynionydd), awdur Enwogion Ceredigion (t.178), yr oedd i'r clochydd hwn, a oedd hefyd yn arweinydd y gân, lais rhagoraf o bawb yn ei oes a rhwng cerddoriaeth y clochydd a phregethau y curad yr oedd tyrfaoedd o wahanol barthau o'r wlad yn cyrchu i Langrannog. Byr fu arhosiad Peter Williams yn Llangrannog; bu'n rhaid iddo ymadael yn bur ddisymwth. Ond nid dilyn hynt a helynt yr esboniwr a wneir yn awr, ond dilyn yn gyntaf oll hanes mab i'r clochydd, a anwyd ym 1752; neb llai na Dafydd Siencyn Morgan. Pan dyfodd yn fachgen dechreuodd gael gweisi cerddorol gan ei dad, ond yn ôl Gwynionydd, 'doedd ei lais ddim "yn agos cystal â llais ei dad." Ychydig iawn o'i hanes sydd ar gael. Dywedir iddo ymuno â'r milisia yn Noc Penfro pan oedd yn ugain oed ac iddo ymuno â seindorf ei gatrawd a dysgu canu'r clarinet. Wedi dychwelyd adref o'r fyddin, parhaodd i astudio cerddoriaeth, gan ddefnyddio gramadeg Tansur. Fe'i penodwyd yn arweinydd y gàn yn eglwys y plwy, a dechreuodd gynnal dosbarthiadau canu. Yn raddol daeth galw am ei wasanaeth, yn ei sir ei hun i ddechrau, ond yn ddiwedd- arach yn y Gogledd pell ac yng nghymoedd y De. Dywedir iddo deithio cyn belled â Sir Fôn, ac iddo aros ar y daith ym Machyn- lleth, Dolgellau a Bangor. Dywedir iddo hefyd fynd ar daith i Forgannwg a Mynwy. Byddai oddicartref am rai misoedd ar y teithiau hyn, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd yn yr eglwys yn Llangrannog. Darlith a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng nghapel y Tabernacl, Aberteifi, 4 Awst, 1976, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Aberteifì.