Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II JRhîf 5 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhag. 1982 Emynwyr Tref Caernarfon Y rhan olaf o ddarlith a baratowyd ar gyfer ei thraddodi yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, Awst 1979. Bu llawer o weinidogion yr Eglwys Fethodistaidd a dreuliodd dymor yng Nghaernarfon yn cynhyrchu emynau. Bu John Hughes (Glanystwyth; 1842-1902) am dymor o dair blynedd yn y dref (1881-84), yn ôl y drefn yn ei ddyddiau ef. Glanystwyth oedd cadeirydd pwyllgor Llyfr Emynau y Methodistiaid Wesley- aidd (1900). [Yr wyf yn ddiolchgar i Miss Dora Roberts, Caernarfon, am roi imi lyfrau emynau'r Wesleaid cyn cael y llyfr emynau ar y cyd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1927.] Mae gan John Hughes bedwar emyn yn y llyfr olaf a nodwyd, sef, rhifau 75 (y pennill sy'n cloi gyda'r cwpled adnabyddus: 'Mae calon Tad tu ôl i'r fraich Sy'n cynnal baich y byd'), 262 (emyn ardderchog yn adran 'Yr Ysbryd Glân a'i Waith'), 570 ('Ti, 'r Hwn sy'n maddau beiau, Sydd â'i gariad fel y lli .) a 625 ('Gwêl y pechadur gwaethaf gaed emyn ac iddo awyrgylch Cristionogol diffuant iawn). Cyfrannodd William Hugh Evans (1831-1909), emynau i Lyfr Emynau y Methodistiaid Wesleyaidd (1900). Y tebyg ydyw iddo eu cyfansoddi cyn ei dymor fel gweinidog Wesla yng Nghaernarfon. Yr emyn sy'n cadw ei enw yn adnabyddus yw'r un sy'n hawlio ei le yn netholiad emynau y gwahanol enwadau, yn adran 'Mawl ac Addoliad', sef, Addolwn Dduw ein Harglwydd mawr M ewn parch a chariad yma'n awr; Y Tri yn Un a'r Un yn Dri Yw'r Arglwydd a addolwn ni. Ceir pump o benillion yn yr emyn, ac fel arfer Yr Hen Ganfed yw'r dôn. (Gweler rhif 20 yn Llyfr Emynau y Methodistiaid [1927], a rhif 146 yn Y Caniedydd.) I ba raddau y dylid ystyried cyfieithwyr emynau yn emynwyr? Y mae'r ateb yn dibynnu llawer ar ansawdd a natur y cyfieithiadau. Y mae'n bosibl i gyfieithiad da ragori, os rhywbeth, ar y 'gwreiddiol'.