Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

tragwyddol Dduw'. Yn Emynau a'u Hawduriaid (arg. 1961), t.152, dywed John Thickens: Ni phriodolir y cyfieithiadau sydd gennym o emynau 245 a 246 [yn Llyfr y Methodistiaid] i Rowland Fychan; mynegir yn unig mai o'r Llyfr Gweddi Gyffredin y cafwyd hwynt. Cywir yw hynny, mewn rhan, canys ymddangosodd y ddau emyn yn argraffiad 1664 o'r Llyfr Gweddi, eithr diau mai R.F. a'u rhoes mewn Cymraeg, a phriodolir hynny iddo trwy'r cenedlaethau. Yn ei ddarlith ar 'Emynau Ewrop yn y Gymraeg', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, 1995/96, t.160, dyma sylw Brynley F. Roberts: 'Wn i ddim ar ba sail y priodolir y rhain i Rowland Fychan o Gaer-gai.' Ceir mwy o gytundeb mai Rolant Fychan a gyfieithodd 'Na thro dy wyneb, Arglwydd glân', a ymddangosodd yn nhrydydd argraffiad Yr Ymarfer o Dduwioldeb (1672). Cyfieithiad ydyw o 'The Lamentation of a Sinner', o'r eiddo John Marckant, a oedd yn gân boblogaidd yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Y pennawd yn Llyfr y Methodistiaid yw 'Galarnad Pechadur', a 'Llef yr Edifeiriol' sydd yn Y Caniedydd. Defnyddiwyd y gair 'carol' ym mhennawd dau drosiad cynharach ohoni, 'Carol am Edifeirwch Pechadur' gan Siôn Tudur a 'Karol Duwiol' gan Tomas Jones. John Richard Jones (J. R. Jones, Ramoth; 1765-1822) Yn Cylchgrawn y Gymdeithas Lyfryddol Gymreig, 8:2 (Gorffennaf 1955), y mae Garfield H. Hughes wrth sôn am 'ddylanwad rhai o arweinwyr crefyddol Sgotland' ar syniadau rhai o wyr y ddeunawfed ganrif, yn cyfeirio at Archibald Maclean a bod J. R. Jones wedi ysgrifennu ato yn 1796 ar ôl darllen ei waith. Dywed J. R. Jones yn Aleluia, neu Ganiadau Crist'nogol (1822), ei fod wedi cyfieithu rhai o'r emynau 'allan o Gasgliad y diweddar Mr. A. McLean'. Ei gyfieithiad o emyn Samuel Davies, 'Duw mawr y rhyfeddodau maith', a gadwodd enw J. R. Jones yn fyw, a hwnnw yw'r unig un o'i eiddo a welir yn y llyfrau emynau yn gyffredinol. Ond o droi at Gwisg Moliant Newydd, llyfr emynau'r Bedyddwyr Albanaidd (1961), fe welwn fod y fersiwn yn dra gwahanol yno. Ceir yn y llyfr hefyd wyth emyn o waith Isaac Watts wedi'u cyfieithu ganddo, ac un o waith John