Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Fawcett. Diddorol yw cymharu cyfieithiadau J. R. Jones a Dafydd Jones o Gaeo, o un o emynau Watts: Sain iachawdwriaeth Duw i'r byd, I'n clustiau hyfryd yw; Balm rhag pob clwyf, a chysur clau Rhag ofnau o bob rhyw. Aed sain yr iachawdwriaeth gu, Oddeutu'r ddaear gron; A boed i luoedd nefoedd lân Ddyrchafu cân am hon. J. R. Jones Yr iachawdwriaeth fawr yng Nghrist Swn melys hyfryd yw i'm clust; Balm cryf i'm clwyfau o bob rhyw, A chordial im rhag ofnau yw. Aed sain yr iachawdwriaeth fawr Oddeutu'r ddaear faith yn awr; A boed i'r nef a'i lluoedd llon Gyfodi llef i seinio hon. Dafydd Jones o Gaeo Daw agwedd J. R. Jones at emynau yn gliriach', medd Garfield Hughes, 'yn ei lythyr at Ddewi Wyn, Rhagfyr 7, 1814, pan gondemnia Edward Jones, Maes y Plwm, am ganu "ar fesurau masweddol ac ansobr," gan enwi nifer o'r mesurau ac ychwanegu, "Yn fwyaf cyffredin, rhyw fesurau gorwylltion, ansobr a masweddol o'r fath yma oedd gan William Williams, y pencerddor Methodistaidd gynt, ac nid yw rhyfedd yn y byd gweled dynion penboethlyd a gorwylltiaid yn torri allan i neidio a llamddawnsio wrth ganu y fath fesurau ansobr ac ansyber." 'Yr hyn sy'n chwithig', medd Garfield Hughes, 'yn y llyfr olaf [Aleluia 1822] o gofio'r llythyr, yw cymhlethdod rhai o'r mesurau a ddewiswyd. Y mae rhif 92 yn yr ail ran, "O Iesu Gogoniant rhyfeddod a chân," yn enghraifft sy'n werth ei nodi. Nid rhyfedd, o gofio hyn oll, mai Gilboaidd galed yw emynau J.R. Jones ei hun.' Yr oedd J. R. Jones wedi cyhoeddi dau gasgliad o emynau cyn 1822, Casgliad o Salmau a Hymnau (1802) ac Emynau, neu Ganiadau Cristionogol (1805). David Jones, Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn (1770-1831) Gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, cerddor, a chyhoeddwr casgliadau o emynau. Gwneuthurwr llestri pren a hyfforddwyd gan Jenkin Lewis yn Athrofa Wrecsam ac a weinidogaethodd yn Nhreffynnon, hyd ei farw trwy ddamwain yn Lerpwl yn 61 oed. Y mae