Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A glywsom ddadl fwy grymus erioed dros uno'r holl nerthoedd democrataidd gan gynnwys y cenedlaetholwyr a'r sosialwyr, hynny yw pleidwyr y cenhedloedd tan ormes, a phleidwyr y dosbarthiadau tan ormes ? Yr un peth sydd wrth wraidd pob gormes, sef y codau arian. Dylem lawenhau wrth glywed am fuddugoliaeth plaid Nehru yn India. Bydd yn hwb i fudiadau gwerinol trwy'r byd. Yn yr un modd, buasai buddugoliaeth y Sbaenwyr ar eu gelynion yn fendith aruthrol i Gymru, ac i wledydd eraill. Ar y llaw arall, buasai buddugoliaeth y landlordiaid a'r Ffasistiaid rhyng- genedlaethol yn cryfhau sefyllfa gormeswyr Prydain ac felly yn prysuro tranc Cymru. CYRIL P. CULE. BROYDD CYMRU: III. BRO MORGANNWG (Darlledwyd rhannau o'r ysgrif hon, a chyhoeddir hi trwy ganiatâd y B.B.C.) YN ddios, Sir Forgannwg yw sir bwysicaf Cymru heddiw. Bu'r rhanbarth hwn yn frenhiniaeth ac yn arglwyddiaeth. Hi yw sir fwyaf cymhleth Cymru-sir y problemau mawr. Rhennir Sir Forgannwg, ac eithrio Gwyr, yn ddwy ran, a gelwir hwy y "Cymoedd" neu'r "Blaenau", a'r "Fro." Bro Morgannwg" yw'r gwastadedd rhwng cyffiniau Llandâf a chyffiniau Penybont, ac yn ymestyn i'r gogledd i Lantrisant a Llanharan, ac i'r de i lannau Môr Hafren,-rhyw bum milltir ar hugain o hyd a deng milltir o led. Dilyn priffordd y Fro yr hen ffordd Rufeinig o Gaerdydd i'r Gorllewin, a'r Pil. Y mae Sir Forgannwg yn sir gyfoethog a phrydferth iawn, ond y mae hanes datblygiad y ddwy ran, y "Blaenau" a'r