Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y MUDIAD CYMDEITHASOL DYMA Nadolig arall heibio a dechrau blwyddyn newydd ı,j unwaith eto. Ar dro blwyddyn o HEDDIW i Ddoe tem- tiwyd ni'n fawr i geisio dyfalu barn Yfory amdanom, ond, bellach, ni flinwn yn fawr gan mor gyfarwydd ydym â'r syniad y gall na fydd yfory o gwbwl. Tebyg i bawb sylwi fod teganau plant yn ddrutach eleni a diau i lawer orfod gwneud ar lai oherwydd hynny. Trueni fod yn rhaid i gysgod eu harch guddio chwarae plant, hyd yn oed ar ddydd Nadolig. Daeth misoedd olaf y flwyddyn â chryn dipyn o oleuni ar wir bolisi Prydain. Medd "Aelod Syml a Sosialydd" wrthyf, "Rhaid i'r wlad hon arfogi er mwyn amddiffyn gwledydd gwan." Wedi bod yn fyddar cyhyd, mae'r llew yn deffro. Trueni na fuasai Abyssnia a Sbaen wedi llyncu arian Prydain, fel China. Buasai Mwsolini a Ffranco, hefyd, wedi derbyn rhai o stern notes John Bull. Mae'n amlwg, bellach, fod Prydain yn barod i ymladd i amddiffyn buddiannau a chyfoeth un wlad fechan, sef Prydain Fawr. Ac mae'r plant dros y môr o'i phlaid. Bellach dyma game o'r radd flaenaf rhwng y tri gallu mwyaf ffasgaidd yn y byd. Iesu cofia'r plant. Duw helpo China. Oherwydd prysurdeb tymor y Nadolig, ychydig fu gweith- rediadau Mudiad y Gredo Gristnogol. Anfonodd rhai ataf i ofyn am gopi o'r gredo a holi a oedd rhyddid i ymuno â'r mudiad Carwn hysbysu unrhyw un a gymer ddiddordeb, fod y Mudiad yn agored i leygwyr yn ogystal a gweinidogion, o bob enwad- unrhyw Gristion. Cymerwn fod pob un a all dderbyn erthyglau'r gredo yn Gristion. Os oes rhywrai am gopi o honi, mynner rhifyn Tachwedd 1937, HEDDIW, neu anfoner ataf fi. Cynhaliwn gyfarfodydd yma a thraw mewn capelau gan mwyaf yn nhymor y Gaeaf ac os oes rhywun a garai inni drefnu cyfarfod yn ei ardal byddaf yn falch o glywed oddiwrtho. «j/^YNHALIWYD un cwrdd dan nawdd y Mudiad Cymdeith- \-> asol yn ystod y mis diwethaf, ym Mhontardawe a'r Parch- edigion R. J. Jones, Caerdydd, a Gwyrfai Jones, Cwmafon yn annerch. Rhoddai'r cyntaf wedd obeithiol gan bwyso na bydd- ai'r un wlad yn dwyn galanstr ar ei phen os gallai beidio, gan gymaint yr ofnai pawb ganlyniadau rhyfel modern.