Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TWR A'R GRAIG CONSCRIPTION URGED. Lord Strabolgi is to move in the House of Lords on Nov- ember 16: "That, in the light of recent euents, this House is of the opinion that it would be in the best interests of this country if some measures of compulsory national service to include compulsory service in the Forces of the Crown were to be adopted." 01 hen ryfel a welais, Y cysgod trwm lle cwsg trais, Ar y garn un haearn hwyr- Twr eofn tua'r awyr. Ban a llym uwchben lli, Talgerth yng ngwynt y weilgi Ar dalar y wâr werin Balch ei droed-heb weilch y drin. Er y chwyldro, ucheldrem Yw'r syth ei lun. Mae'r saeth lem O lau yw byw bwau ? Mae'r oerfain wayw? Mae'r arfau ? Mae hil orchfygol Gwilym ? Mae'r aerwyr, llu ? Mae'r iarll llym ? Draw yr oedd carn ac arni Garreg hen. Y graig, hyhi, Ar welw fin yr wybrol fôr, Maen garw er mwyn y goror, A llun dan gymylau llwyd Yn air praff a wyr proffwyd. Câr y maen a'i hadwaeno Difalch a thlawd fel brawd bro Dyrchaf bader a chyfyd Ein baich dros rimyn y byd. A llefair y gair o'r garn Erys hwy na'r oes haearn. I II