Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ynghyda holl rianedd y llenyddiaeth ramantus a gynhyrchid ar ei hôl hi. Nid yw dylanwad moesol Arthuraetli wedi darfod eto; ni dderfydd byth. Creadigaeth Gymreig yw Rhamantiaeth; a rhoddwyd hi i Ewrop drwy gyfrwng y chwedl Arthuraidd. Cofiwch hynny pan ddywed rhywun eto fod Cymru'n gartref Clasuraeth! Am y rheswm hwn yn unig fe ddylai fod yn amhosibl i wr addysgedig yn Ewrop ymffrostio yn ei anwybodaeth o lenyddiaeth Cymru. Y Mabin- ogion a'r Diirina Commedia yw'r dogfennau pwysicaf yn hanes y byd gorllewinol rhwng cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a'r Dadeni Dysg. Ond ar wahân i'w phwysigrwydd hanesyddol, y mae llenyddiaeth Gym- raeg y cyfnod hwn yn sefyll allan oherwydd ei hansawdd ei hun. Hi a llenyddiaethau'r Eidal a Ffrainc yw'r tair llenyddiaeth wychaf yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Os ychwanegwn lenyddiaethau Tsheina a Phersia, dyna inni restr gyflawn o bum llenyddiaeth fawr y cyfnod. Canys yn ogystal â'r Mabinogion a'u rhamantiaeth ddisglair, ar wahân i waith Lladin personoliaethau diddorol fel Sieffre, Walter Map a Gerallt, mae yn llenyddiaeth Cymru ddau draddodiad mawr o glasuraeth, traddodiad y Gogynfeirdd a thraddodiad Beirdd y Cywydd, dwy olyniaeth o virtuosi mawrion, dau gorff o ddehongliadau meistrolgar ar egwyddorion arhosol cerdd dafod. Ac yn ogystal â'r dehonglwyr mawrion, ceir ychydig o greawdwyr": y mae un ohonynt, Dafydd ap Gwilym, yn un o feirdd mwyaf y cyfnod. Ef a Dante yw beirdd pennaf Ewrop rhwng Fyrsil a'r Dadeni. Davies ABERPENNAR. O.N.—'Rwy'n teimlo'n well yn awr, diolch. — D.A. GELLWCH GAEL STORI ANFARWOL PINOCCHIO TESTUN FFILM FAWR NEWYDD WALT DISNEY yn Gymraeg! Cyfieithwyd y stori o'r Eidaleg gan E. T. Griffiths, M.A., Prifathro Ysgol Sir y Bechgyn, y Barri, a chyhoeddwyd hi ddwy flynedd yn ôl dan y teitl "YR HOGYN PREN" PRIS 2/6 Gellir cael y trosiad ardderchog hwn gan yr holl lyfrwerthwyr neu oddi wrth y Cyhoeddwyr: GWASG GEE, DINBYCH