Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DDAU GWRDD Mae'r saint wrth droed y bryn mewn capel llwyd, A ninnau fry yng nghysegr ein nwyd. Dibynnant hwy ar eneiniedig frawd; Mae gennym ni eneiniad siŵr y cnawd. Dilestair yw eu llef, digrŷn eu traed; Pêr-ofnwn ni ein dygyforus waed. Moliannant hwy rinweddau Calfari; Distewir fi gan rin dy ddwyfron di. Ond unpeth trist a'n clyma ni â hwy, Er bod i ni'n ddi-au orawen fwy: Saint a chariadon, pwy o'u plith nis gŵyr? Wedi'r gwahanu, cilia'r hoen yn llwyr. NEFYDD OWEN. NODIADAU I. Dafydd ap Gwilym a gychwynnodd y dull hwn o sgrifennu. 2. Llinell 4: cf. Inferno, V, 103: Amor, che a nullo amato amar perdona." 3. Nid hon yw'r delyneg na feiddiodd cylchgrawn Cymraeg ei chyhoeddi hyd yn hyn. HEDDIW: CYF. 5, RHIF 12: MAI 1940