Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFANSODDIAD CYMDEITHAS HANES YR EGLWYS FETHODISTAIDD YNG NGHYMRU. Cadeirydd Y Parch. D. TECWYN EVANS, Rhyl. Golygydd Mr. A. H. WILLIAMS, Cartrefle, Rhuthun. Is-Olygydd Y Parch. GRIFFITH T. ROBERTS, Bangor. Ysgrifennydd Y Parch. H. M. PENNANT LEWIS, Brynffynnon, Llanasa. Trysorydd Mr. WHITLOCK WILLIAMS, Llangunnor, Caerfyrddin. 1. ENW'R GYMDEITHAS fydd Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru." 2. EI DIBEN fydd (a) Casglu a diogelu defnyddiau o bob math, ynglyn â'r E.F. yng Nghymru, a fydd o werth a diddordeb hanesyddol. (b) Cyhoeddi cylchgrawn yn ymwneud â hanes yr E.F. yng Nghymru. (c) Rhoddi pob cefnogaeth i'r sawl a fo'n ymddiddori yn hanes yr Eglwys Fethodistaidd. 3. AELODAU. Ni chyíyngir aelodaeth i'r Eglwys Fethodistaidd ond disgwylir i bob aelod dalu lleiafswm o 2/6 y flwyddyn am gopi o'r cylchgrawn. 4. PWYLLGOR. (a) Dau aelod o bob Talailth wedi eu hethol gan Gyfarfodydd Taleithiol Mai, dau aelod yn cynrychioli'r Gymanfa ynghyda'r rhai a gyfetholir gan y pwyllgor ei hun. (6) Yr aelodau i ddal eu swyddi am dair blynedd, ond yn agored i'w hail-ethol. (c) Swyddogion y Pwyllgor fydd-y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, y Trysorydd, y Golygydd a'r Is-olygydd. (ch) Etholir y swyddogion gan y pwyllgor bob blwyddyn. (d) Disgwylir i'r pwyllgor gyhoeddi cylchgrawn o leiaf unwaith bob blwyddyn. Enw'r cylchgrawn fydd Bathafarn." (dd) Y pwyllgor i gyhoeddi Mantolen ariannol bob blwyddyn yn y cylchgrawn. Archwilir y fantolen gan un a benodir gan y pwyllgor a chyflwynir hi bob blwyddyn i'r Gymanfa. (e) Y pwyllgor i gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn. 5. PWYLLGOR GWAITH.: Y Swyddogion a Goruchwyliwr y Llyfrfa. 6. CYFFREDINOL (a) Y Pwyllgor i weithredu dan nawdd Cymanfa'r Eglwys Fethodistaidd ac i fod'yn gyfrifol iddi. (b) Unrhyw newid yn y cyfansoddiad i'w ystyried yn y cyfarfod blynyddol ar ôl rhoi mis o rybudd i'r aelodau. (c) Datganwyd ein bwriad o gyd- weithio â'r Wesley Historical Society."