Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CANMLWYDDIANT Y TABERNACL, DEINIOLEN 1874-1974* Gan Mr. Richard Jones, B.Sc., Abergele CANMLWYDDIANT y Capel, yr adeilad, yw y dathliad hwn, nid canmlwyddiant yr achos. Cymerodd hwnnw Ie ym 1960. Felly rhaid mynd heibio i'r dyddiau cyn 1874, heibio i'r ffeithiau diddorol sydd yn gysylltiedig â chychwyniad yr achos Wesleaidd yn Nein- iolen. Ond hwyrach y dylwn sôn rhyw ychydig am y dyddiau cynnar hynny. Cynhaliwyd y cyfarfodydd rheolaidd cyntaf yn y Tŷ Clwb yn 1860. Mae'r hen adeilad yma wedi diflannu ers rhai blynyddoedd bellach. Safai dros y ffordd i'r Hen Felin, yn ymyl Capel Disgwylfa. 'Wn i ddim paham y galwyd o yn Tŷ Clwb.' Clywais fod Byddin yr Iachawdwriaeth wedi bod yno flynyddoedd lawer yn ôl. Ar ôl Ilawer iawn o drafferth a gwrthwynebiad, medrodd y Wesleaid ei rentio am £ 3 y flwyddyn. Meddyliodd y gwrthwynebwyr y buasai y rhent afresymol yma yn torri calonnau y Wesleaid. Ond nid felly y bu Gwelais mewn hen ysgrif gan Owen Jones, Erw Fair, eiriau fel hyn Cofied y darllenydd mai nid anturiaeth fechan ddibwys oedd cychwyn achos Wesleaidd mewn ardal wedi ei phiclo â Chalfiniaeth Pregethwyd am y tro cyntaf yn y Tý Clwb ar Chwefror 2, 1860, gan y Parch. Lewis Jones, Arolygwr Cylchdaith Caernarfon, gyda naw o aelodau. Ei destun oedd, Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r Uawr.' Dyma eiriau Owen Jones eto, Cafwyd diadell ddifyr yn y "Ty Clwb," a phawb yn selog yng ngwres diwygiad 1859.' Ar blan Cylchdaith Caernarfon y bu'r achos hyd 1867, ond ar blan hen gylchdaith enwog Tre-garth y mae wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Am gyfnod byr oddeutu 1872, bu ar blan Llanberis. Ym 1863 adeiladwyd y Tabernacl cyntaf yn Tabernacl Street, yn ymyl y Co-op presennol, a chostiodd tua £ 400. Ni bu hir oes iddo, a hynny yn bennaf oherwydd ei gylch a'i safle anffafriol. Yn ôl yr enwog Dr. Hugh Jones Adeiladwyd tai bychain o'i gwmpas, Ue yr oedd y dosbarth isafyn byw, ac yn ei ymyl y byddai pob "Show" ddeuai i'r pentref yn aros.' Yn 1874 symudwyd i'r safle presennol yn Deiniol Road, ar y ffordd i lawr yr aUt o'r pentref. Codwyd ef i eistedd 240, a chyfrifid y gost yn £624. Cafwyd echwyn o £ 120, a rhodd o I00 gan *Traddodwyd cynnwys yr ysgrif hon fel anerchiad yn y Cyfarfod Dathlu, ac ni cheisiwyd dileu'r arddull anerchiadol.'—Gol.