Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a luniwyd ganddynt (heb ddadlau yn eu cylch nac arfer mympwyon personol). Felly yn unig y daw'r termau hyn yn ddealladwy i bawb ac yn rhan o'n hiaith fyw. W. GERALLT HARRIES. Abertawe. Y PER GANIEDYDD [PANTYCELYN], CYFROL II, ARWEINIAD I'W WAITH. Gan Gomer Morgan Roberts. Gwasg Aberystwyth, 1958. Tt. 282. 15s. 'Nid pathology yw popeth' oedd cwyn y diweddar Dr. Moelwyn Hughes, dros ddeng mlynedd ar hugain yn 61 bellach, yn ei ffwdan uwchben dadansoddiad 'newydd' ysgytiol beirniad ifanc o'r enw Saunders Lewis o fywyd a gwaith William Williams o Bantycelyn. Anodd fyddai Mr. Gomer Roberts fod wedi datgan ei gytundeb a Moelwyn yn fwy llwyddiannus nag a wnaeth yn y gyfrol hon, gan iddo wneuthur astudiaeth hollol wrthrychol o waith Williams, a'i draed yn gadarn ar y llawr, o fewn y fframwaith a luniodd yn ei gyfrol gyntaf (1949) ar hanes bywyd Panycelyn. Arweiniad i waith Williams yw'r gyfrol yn 61 yr is-deitl a roir iddi, ac y mae ei phatrwm yn syml ac effeithiol yn unol a'r amcan hwnnw, yn wir, y mae'n llwyddiant fel math o vade-mecum i'n tywys hyd lwybrau toreithiog cynnyrch llenyddol 'pererin' enwocaf Cymru. Rhoir tair pennod i drafod Williams fel emynydd. Fe'i gosodir, fel y dylid, yn y bennod gyntaf mewn olyniaeth o emynwyr Cymraeg a ddechreuodd cyn amser Williams ei hun. Trafodir gwahanol gasgliadau ac argraffiadau a wnaed o'r emynau yn yr ail. Yn y drydedd, cyfrennir yn helaeth at ein gwybodaeth ynglyn a mydrau a rhithmau Williams yn yr emynau, a'r dylanwadau a fu arno wrth lunio rhai ohonynt, yn enwedig y tonau y cenid yr emynau arnynt-olrheinir y mwyafrif o'r rhain i'w ffynonellau dros Glawdd Offa. Ceir penodau ar farddoniaeth grefyddol Williams (ar wahan i'r emynau), ar ei farwnadau, ac yn olaf ei weithiau rhyddiaith. Mewn dau atodiad ceir rhestr, gyda nodiadau, o weithiau cyhoeddedig Williams mewn trefn amseryddol (sydd yn ychwanegu rhyw dair eitem at restr J. H. Davies, J. W.B.S., 1918) a rhestr arall o ychwanegiadau a chywiriadau ynglyn a chyfrol gyntaf yr awdur ar fywyd Pantycelyn. Y mae dau ddarlun facsimile, un o lawysgrifen Williams (yn N.L.W. 78), a'r Hall o ddalen-deitl ail argraffiad Aleluja 1744. Braidd yn 'denau' yw'r mynegai ar y diwedd o gymryd i ystyriaeth y llu ffeithiau a chyfeiriadau a gynhwyswyd rhwng y cloriau. Pa fodd bynnag, y mae'r llyfr yn gryn gamp o grynhoi multum in parvo, ac yn gyflwyniad anhepgorol i waith Williams i'r sawl nad yw ei wybodaeth yn ehangach na'r hyn a ddynodir (er cymaint hynny) a'r llythyren 'W' yn ein llyfrau emynau. Ni ddylid cymharu'r gyfrol a gwaith beirniadol Mr. Saunders Lewis (1927) gan nad astudiaeth lenyddol feirniadol a fwriedir gan Mr. Roberts. Ar yr un pryd, y mae ar adegau yn ymollwng i wneuthur sylwadau 10