Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwetthiau MORGAN LLWYD o WYNEDD, CYFROL III. Golygwyd gan J. Graham Jones a Goronwy Wyn Owen. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994.Tt. 218. £ 27.50. Dyma'r drydedd gyfrol o'r gyfres hon o weithiau Morgan Llwyd a cheir ynddi bob darn o'i waith nas cynhwyswyd yn y cyfrolau blaenorol. Aeth bron i ganrif heibio er cyhoeddi y ddwy gyfrol gyntaf, a olygwyd gan T. E. Ellis ym 1899 a J. H. Davies ym 1908. Da gweld cwblhau'r dasg werthfawr o gasglu ynghyd holl gynnyrch Morgan Uwyd y dyn, y llenor a'r Piwritan. Fel y dywed R. Tudur Jones yn ei ragymadrodd 'scribliadau digon anodd i'w hesbonio' yw llawer o'r deunydd a gynhwysir, a briwsion man iawn yw amryw o'r rhain. Serch hynny, neilltuir y darnau lleiaf a mwyaf annelwig i'r atodiadau, lie gall yr ymchwiliwr mwyaf chwilfrydig a dygn eu chwilota'n llawen heb iddynt amharu ar gorff y llyfr. Rhaid cyfaddef fod yna ryw swyn arbennig yn perthyn i scribliadau ac, at ei gilydd, byddwn yn dueddol o gytuno a gosodiad R. Tudur Jones fod popeth a drawodd Morgan Llwyd ar bapur yn werth ei ddiogelu. Hoffais yn arbennig y 'Cyfarwyddiadau i Argraffydd' (t. 93), sy'n awgrymu'n gynnil yr anawsterau a wynebai'r sawl a geisiai gyhoeddi llyfrau Cymraeg trwy'r gweisg yn Uoegr, yn y dyddiau cyn llacio'r rheolau ynglyn ag argraffu mewn parthau eraill o'r deyrnas. Gellir dychmygu bod llu o brofiadau anffodus y tu cefn i gyfarwyddyd swta Llwyd: 'Let no alteration be made in words or sense.' Amen i hynny! Ar ryw olwg, y mae'r teitl yn gamarweiniol braidd, oherwydd cyfran gymharol fechan o'r gyfrol a neilltuir i weithiau Morgan Llwyd ei hun mewn gwirionedd. Cynhwysir yn ogystal nifer helaeth o lythyrau a ysgrifennwyd ato ynghyd a rhai dogfennau a deisebau yn perthyn i gyfnod y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth. Serch hynny, peth hwylus yw cael y rhain wedi eu cywain at ei gilydd mor gyfleus. Byddwn wedi hoffi gweld y llythyrau'n ymddangos yn 61 trefn amser yn hytrach nag wedi eu dosbarthu'n 61 y sawl a'u hanfonodd. Teimlais fod y drefn hon yn taro'n arbennig o chwithig yn achos y llythyr olaf a anfonodd Vavasor Powell at Llwyd, sy'n ymddangos yng nghanol y casgliad, er iddo gael ei anfon tua therfyn oes Llwyd. Erfyniad taer am adfer yr hen gyfeillgarwch ac anghoflo pob rhagfarn ac anghydweld yw neges Powell: I never unsainted you in my opinion, nor unfriended you in my desires. You were never out of my heart, nor shut out of my poore prayers. Dagrau pethau oedd fod Llwyd eisoes yn ei fedd pan ysgrifennwyd y geiriau ac nad oedd gobaith am gymod bellach. Bu farw ar 3 Mehefin