Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ALMANAC Y CYMRO Wrth olrhain hanes argraffu yn nhref Aberteifi, cyfeiriodd y diweddar Gomer M. Roberts at y ffaith mai 'un o gynhyrchion poblogaidd gwasg Isaac Thomas oedd yr almanac Cymraeg blynyddol, Y Cymro, y dechreuwyd ei gyhoeddi yn 1825'. Nid oes sicrwydd pryd yn union yr ymsefydlodd Isaac Thomas yn argraffydd yn y dref ac, fel y cawn ddangos yn y man, prin iawn yw'r dystiolaeth sy'n ategu awgrym Gomer M. Roberts mai ym 1825 yr ymddangosodd rhifyn cyntaf yr almanac o'r wasg. Ni ellir amau, serch hynny, nad oedd Almanac y Cymro yn gyhoeddiad pwysig yn hanes argraffu yn y dref. Gellir dadlau bod iddo le pwysig yn hanes cyhoeddi llenyddiaeth boblogaidd yng Nghymru, gan iddo ymddangos yn ddi-fwlch o tua 1835 hyd 1940, a'r un wasg a'r un teulu a fu'n gyfrifol am ei gyhoeddi gydol yr amser. Bu hefyd yn cyd-ymddangos gyda phapur lleol, sef y Cardigan and Tivy-side Advertiser, a argraffwyd ac a gyhoeddwyd gan yr un wasg a'r un teulu o berchenogion, ac mae'n bosib fod llwyddiant yr almanac wedi Cymreigio'r papur hwnnw. Fel yn achos y papur newydd, mae'r almanac yn ddrych pwysig i ddifyrrwch, chwaeth a meddwl yr oes a'r ardal, a thrwy'r wybodaeth a gofnodir ynddo mae'n cynnig ffynhonnell a thystiolaeth bwysig i haneswyr lleol. Cyn bwrw golwg ar hanes yr almanac a'i gynnwys, buddiol fyddai olrhain yn fyr hanes y wasg hon yn Aberteifi. Yn rhyfedd iawn, er mor bwysig yw'r wasg yn hanes argraffu a chyhoeddi yn y dref a'r sir, nid yw ei hanes wedi ei grynhoi yn foddhaol mewn un man. Y mae Gomer M. Roberts yn cynnig 1825 fel dyddiad sefydlu'r wasg2 ar 61 ystyried awgrym cynharach David Jenkins mai tua 1820 y'i sefydlwyd.3 Nid oes angen amau dilysrwydd cynnig Gomer M. Roberts. Bu Isaac Thomas farw ym 1853, a'i wraig Margaret a fu'n berchen ar y wasg ac yn ei rheoli hyd nes y bu hithau farw ym 1867.5 Aeth y wasg wedyn yn eiddo i'w mab hynaf, Owen William(s) Thomas. Ef oedd sefydlydd y Cardigan and Tivy side Advertiser ym. 1866. Bu ef farwym 1873, a'i weddw, Jane, a fu'n berchen y wasg hyd 1885. Cofnodir iddi arolygu nifer fawr o ddatblygiadau yn hanes y wasg yn y cyfnod hwnnw.