Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWERSI YN Y FYDDIN GAN YR IS-GAPTEN H. WYNN WILLIAMS Derbyniais y llythyr hwn o India, yn atèb i lythyr a gyhoeddais i yn Cofion Cymru Bombay, 3/10/44. Annwyl Mr. Thomas, Daeth y newydd am LLEUFER i'n sylw drwy gyfrwng y Cofion." Mae'r newydd yn un diddorol dros ben. Yn y fyddin, ar wahân i ehangu ein golwg trwy ddyfod i gyffyrddiad â gwahanol genhedloedd, a thrwy drafaelio ledled y byd, mae'n bosibl ein haddys- gu ein hunain mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, trwy gyfrwng y dosbarthiadau a'r darlithiau a drefnir gan yr A.E.C. (Army Education Corps) a'r A.B.C.A. (Army Bureau of Current Affairs) ac yn ail, trwy gymryd cwrs o hyfforddiant (Correspondence Course) o dan nawdd yr A.E.C ar ein pwnc ein hunain. Yn yr A.E.C. ceir lliaws o swyddogion, un ai yn y fyddin neu'r tu allan, i gyd yn athrawon profiadol, neu ddarlithwyr yn y colegau. Ymwelant hwy â'r gwahanol gatrodau yn y fyddin, gan ddarlithio ar unrhyw bwnc o ddiddordeb i'r mwyafrif. Os bydd tua hanner dwsin a chanddynt ddiddordeb neilltuol mewn rhyw bwnc neu'i gilydd, gellir trefnu darlithydd trwy yr A.E.C. Trinir pynciau fel Daearyddiaeth, gwyddoniaeth, cerddoriaeth, a cheir hefyd ddos- barthiadau ar y celfyddydau cain, megis arlunio, cerflunio, a saernïo. Ffurfiwyd A.B.C.A. gyda'r bwriad o ehangu gwybodaeth y fyddin mewn materion sydd yn delio'n uniongyrchol â bywyd yr unigolyn, a'i safle mewn cymdeithas. Swyddog Addysg y gatrawd ei hun sydd yn gyfrifol am hyn. Nid oedd ef yn athro cyn ymuno â'r fyddin, o angenrheidrwydd. Y mae ei waith yn un pwysig dros ben, gan mai arno ef y disgyn y baich o ddweud Ie," neu Nage," ymhob dadl. Trefnir pynciau o ddiddordeb i bawb i ddadlau arnynt, megis, Paham y mae Prydain yn rhyfela heddiw; Addysg wedi'r Rhyfel Yr Ymerodraeth, a'i phwysigrwydd i'r dyn cyffredin. Rhydd i bawb ei farn, a phob barn ei llafar," ydyw nod A.B.C.A. Ceir llawer o frwdfrydedd ac ychydig o ddireidi yn y dosbarthiadau hyn. Y mae'r Swyddog Addysg hefyd yn gyfrifol am yr YstaMl Newyddion (Information Room). Yno gellir dilyn cwrs y rhyfel ymhob rhan o'r byd trwy