Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

mudiad, ei fethiant a'i ddiffygion yn ogystal a'i lwyddiant. Ni all ffigurau ddangos hiwmor a thristwch gwaith yr arloeswyr yn y gwahanol wledydd. Ni ddywedir dim wrthym am lafur ac ymroddiad gwyr a gwragedd cyffredin, am y weledigaeth a'u cynhaliodd a'r dewrder a'u harweiniodd i fuddu- goliaeth mewn amseroedd digalon, nac am gadernid di-ildio yr arweinwyr a enillodd eu hymddiried a'u ffyddlondeb yn yr anturiaeth fawr. Un ydyw'r r Mudiad Cydweithredol o nifer o gyfryngau sydd yn hyfforddi dinasyddion ar gyfer eu dinasyddiaeth mewn cymdeithas ddemocrataidd. Egwyddorion gweriniaeth ydyw ei egwyddorion sylfaenol. Yn erbyn hawliau'r ffurfiau unbenaethol 0 lywodraeth, a'r pwyslais a roddant ar anffaeledigrwydd eu "Harweinydd," gesyd democratiaeth farn a deall- twriaeth y bobl gyffredin; yn erbyn delfryd Gallu gesyd hapusrwydd a lles gwyr a gwragedd a phlant. Fe saif democratiaeth, neu fe syrth, yn ôl fel yr ymetyb y dyn cyffredin i sialens dyletswyddau beunyddiol llywod- raethu gwlad. Os gall barn a phenderfyniad y werin, a'i chymhwyster at wneud gwaith gweinyddol, fod cyfuwch â rhai'r dosbarthiadau breintiedig, yna fe fydd llwyddiant llywodraeth werinol yn sicr. Yn y Mudiad Cyd- weithredol, gall dynion ddysgu, nid yn unig elfennau economeg, ond hefyd rywbeth ynghylch y modd i arwain a thrin dynion, a sut i fyw ynghyd mewn rhyddid a chymdogaeth dda. Yn un o ddramâu J. M. Barrie, Mary Rose, ceir hanes gŵr a gwraig ar eu gwyliau yn yr Hebrides, ynysoedd i'r gorllewin o Ogledd Sgotland. Gwasanaethir hwynt gan Ysgotyn o'r enw Cameron, a rhwyfa hwynt yn ei gwch i ynys swynol. Y mae yn Cameron gyfuniad rhyfedd o ymostyngiad a balchder, a phair hyn gryn dipyn o ddifyrrwch i'r pâr ifanc yn y dechrau, nes dysgu ohonynt ei adnabod yn well. O'r diwedd, dywaid wrthynt ei fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberdeen, yn ymbaratoi am y weinidogaeth, ac oherwydd tlodi yn gweithio am gyflog yn ystod ei wyliau i dalu costau'r coleg. A dyma ddarn o' r ymddiddan rhyngddynt: Y Wraig: Ai tyddynnwr yn y pentre yw eich tad ? Cameron: te, ma'am, pan na fydd o ddim ym Mhrifysgol Aberdeen. Y Gẃr: Y nefoedd fawr! Fydd o'n mynd yno hefyd? Cameron Bydd, siwr. Bydd gennym un ystafell fechan iawn rhyngom. Y Gwr: Tad a mab! Ydy yntau'n mynd am y weinidogaeth? Cameron: Na, nid dyna ydy 'i fwriad o. Pan fydd-o wedi cymryd ei radd, bydd yn dwad yn ôl adre, a mynd yn dyddynnwr unwaith eto. Y Gŵr: O, felly dydy o'n cael dim byd ohono-fo. Cameron: Mae-o'n cael y peth mwya ardderchog yn y byd ohono; mae-o 'n cael addysg. Nid "paratoi ar gyfer bywyd" ydyw addysg; bywyd ei hun ydyw.- A. S. Neill.