Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWERTH AMGUEDDFA GAN IORWERTH C. Peate Y mae'r iaith Gymraeg braidd yn anffodus yn y gair "amgueddfa." Yn y rhan fwyaf o'r ieithoedd Ewropeaidd defnyddir ffurfiau (megis "museum" yn Saesneg) sy'n deillio o'r gair Groeg mouseion, sef eisteddfa neu gartref yr Awenau. Rhydd yr olwg hon ar amgueddfa gyfle i ddehongliad eang o'i phwrpas, a chawn sôn am hynny yn y man. Ond yn y Gymraeg, "amgueddfa" a ddefnyddir. Diffinia Dr. John Davies (1632) "amguedd" fel Sic vocamus arcana nobis chariora, chariora supellectilia, a gwelir yr ystyr yn niffiniad Edward Williams yn ei Gyneirlyfr (1826), sef "ein dirgelwch anwylaf, ein trysorau gwerthfawrocaf, ein dewisol ddodrefn." Chwanegwyd -fa at "amguedd" tua 1800 i ddynodi'r adeilad lle y cedwir "ein trysorau gwerthfawrocaf." Ymddengys y gair yng ngeiriadur Dr. William Owen Pughe, ond nis derbyniwyd yn derfynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, canys "cywreinfa" a geir mewn aml eiriadur, hyd yn oed hyd amser geiriadur Saesneg-Cymraeg Silvan Evans. Yn Myfyrdodau Hervey o gyfieithiad Dafydd ap Gwilym o Fuallt yn ugeiniau'r ganrif ceir "amgueddfa," ond yn Seren Gomer a'r Brython gwelir"Y Gywreinfa Bry- deinig." Ond pan sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1907, penderfynodd y Cyngor (a gynhwysai'r pryd hwnnw wýr fel J. H. Davies, Marchant Williams, William Jones, Herbert Lewis, a'u tebyg) ar "Am- gueddfa," a gellir dywedyd mai'r penderfyniad hwn a setlodd yn derfynol y gair Cymraeg am museum. Eithr nid yw "amgueddfa" yn nodi holl werth museum i gymdeithas. Y mae, bid sicr, yn gartrefle i'n trysorau gwerthfawrocaf, a dyna'n amlwg yr unig ystyr a roddid i amgueddfa yn ystod y can mlynedd diwaethaf— cartref creiriau a chywreinbethau, het Hwn-a-Hwn a ffon Hon-a-Hon. Erbyn hyn newidiwyd a helaethwyd llawer ar ein syniadau am werth amgueddfa, ac nid digon bellach yw ystyried amgueddfa'n unig fel cartref hen bethau, neu'n bennaf fel stordy creiriau a "phethau marw." Pa beth felly yw gwerth amgueddfa i fywyd Cymru ? Gellir rhestru ei phrif ddyletswyddau fel hyn: (a) Casglu, trefnu a disgrifio pob math o ddefnyddiau sy'n ymwneuthur â thir Cymru, ei chreigiau, ei phlanhigion, ei hanifeiliaid a'i phobl, a'u gwneuthur yn ddealladwy i'r werin. Fe olyga hyn nid yn unig gasglu defnyddiau lawer yn cynnwys wrth gwrs "ein trysorau gwerthfawrocaf," ond hefyd yn cynnwys holl ddefnyddiau arwyddocaol y byd daearegol, botanegol a soolegol, defnyddiau cyffredin bywyd cymdeithasol a chynnyrch y genedl ym meysydd y celfyddydau. Dehonglir y rhain oll a'u hastudio yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf; dwg hynni at yr ail ddyletswydd, sef- (b) Gwneuthur gwaith ymchwil a chyhoeddi'r gwaith hwnnw. Gwerth arbennig mewn amgueddfa yw bod ganddi staff 0 wŷr a gwragedd sydd nid yn unig yn arbenigwyr yn eu pynciau ond yn adnabod y gymdeithas a wasanaethant, ac wedi 'u trwytho yn ei hanes a'i thraddodiàd. Rhan bwysig