Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHORAWN CYMDÉITHAS ADDYSO Y GWEITHWYR YNO NOHYMRU Cy*. III HAF 1947 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD M I glywais ddweud bod y Rwsiaid yn methu â deall ein dull ni o lywod- 1 raethu ein gwlad, am fod gennym Lywodraeth a Gwrthblaid, a bod Arweinydd yr Wrthblaid yn derbyn cyflog swyddogol yr un modd ag ael- odau'r Llywodraeth. Dyma chwi," meddant, yn ethol Llywodraeth i lywodraethu'r wlad, ac yn ethol pobl eraill i rwystro iddi wneud ei gwaith, a hyd yn oed yn talu cyflog iddynt am wneud hynny. Beth a allai fod yn fwy ynfyd a gwallgof ? Ynfyd a gwallgof," yn wir, petai eu disgrifiad o'n dull 0 lywodraethu yn gywir; ond nid i rwystro'r Llywodraeth rhag gwneud ei gwaith yr etholir aelodau'r Wrthblaid. Fe glywir weithiau ddyfynnu dywediad o eiddo rhywun arall, The duty of an Oppoaition ia to oppose" (dyletswydd Gwrthblaid ydyw gwrthwynebu)—chwarae ar y ddau air, opposition ac oppose. Ond ymadrodd slic, cyfeiliornus, ydyw hwn ◆to; nid yw'n ddyletswydd ar neb wrthwynebu Llywodraeth gwlad ermwyn gwrthwynebu. Mawn gwlad ddemocrataidd fel hon, y mwyafrif a fydd yn llywodraethu pan fo mater mewn dadl, llais y mwyafrif a fydd yn penderfynu'r ddadl. Felly y gweithredir mewn cylchoedd eraill heblaw cylch y Llywodraeth— mewn Pwyllgor Eisteddfod, mewn Cyfarfod Athrawon, mewn cyfarfod o gyfran-ddalwyr cwmni masnachol, mewn Clwb Pêl Droed, mewn Cyngor Sir, Y mae'n debyg gennyf mai felly y penderfynir materion yng nghyfar- fodydd y Sofietiaid hefyd. Yn y Senedd, y mae profiad wedi arwain pobl y wlad hon i gredu mai llywodraeth plaid sydd orau penodir arweinydd y blaid a fo yn y mwyafrif yn Nhy'r CyÔTedin yn Brif Weinidog, a dewisa yntau aelodau eraill o'i blaid ei hun yn Weinidogion i weinyddu'r gyfraith. Y Llywodraeth yn bennaf a fydd yn cynnig Mesurau i'r Senedd i'w gwneud yn Ddeddfau, a rhaid i bob Mesur gael oefnogaeth y mwyafrif cyn ei wneud ynDdeddf. Eithr nid y mwyafrif yn unig a fydd yn llywodraethu yn y Senedd chwaith. Y mae rhywbeth gwell na Llywodraeth drwy Fwyafrif, sef Llywodraeth drwy Drafodaeth, a hyd y mae'n bosibl, Llywodraeth drwy Gydsyniad, neu Gytundeb. Darn o boblogaeth y wlad yn unig a gynrychiolir gan blaid y mwyafrif y mae gan y dinasyddion eraill hwythau hawl i rywfaint o lais yn y llywodraeth. Rhoddi llais i'w barn hwy, a dadlau dros eu daliadau hwy; ydyw gwaith yr Wrthblaid. Nid gwrthwynebu. er mwyn gwrthwynebu, ond cyfrannu at y drafodaeth er mwyn cymhwyso'r deddfau newydd cyn agosed ag y bo'n bosibl at anghenion ac ewyllys pawb. Mewn amlder cynghorwyr y mae doethineb," a gall aelodau'r Wrthblaid, yn ogystal â chefnogwyr