Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CO-OP AC ADDYSG POBL MEWN OED Gan GWYN I. LEWIS O'I ddechreuad cyntaf, fe sylweddolodd y Mudiad Cydweithredol werth Addysg Pobl mewn Oed. Y mae'n wirionedd amlwg fod yn rhaid i fudiad fel hwn roddi rhywfaint o sylw i addysg y rhai mewn oed, mudiad sydd yn dibynnu cymaint am lwyddiant ei drefniadau ar lefur cariad aelodau ei bwyllgorau, a hwythau gan amlaf yn weithwyr cyffredin. Heb- law hyn, bydd gan Gydweithredwyr, fel y dywedwyd lawer gwaith, ddi- ddordebau dyfnach na chyfranogi o fuddiannau ariannol y mudiad. Y mae fiydd mewn Cydweithrediad yn perthyn \n agos i sefydliadau demo- crataidd a sosialaeth. Naturiol, felly, ydyw bod y Mudiad yn gyffredinol wedi rhoddi lle arbennig i gynlluniau addysg fel rhan o'r gwaith a wna tu allan i'w waith masnachol. Cyn mesur gwaith addysgol y Mudiad Cydweithredol, rhaid deall yn gyntaf ei bwrpas. Y ffordd orau fyddai dyfynnu o'r Llawlyfr a gyhoeddodd Cymdeithas Gydweithredol Llundain am 1940-47 Y mae gwerin ddi- ddysg yn berygl iddi hi ei hun." Diffiniad eang ydyw hwn, y mae'n wir, a gellid ei gymhwyso yr un mor briodol at waith y W.E.A. a Dosbarthiadau Tu Allan y colegau. Yn ei swydd arbennig ei hun, cais y Mudiad Cydweithredol roddi Gwyddor Cydweithrediad ar fiaen ei raglen, ond, yn unol â'i bwrpas eang ei hun, ni wneir un ymgais at blannu syniadau neilltuol ym meddyliau'r myfyrwyr, na dysgu dogma iddynt.. Gwaith Amryv;iol y Mudiad.-Dengys y gwaith drwy Brydain oll amryw- iaeth mawr ym mhatrwm trefniadau'r mudiad, ac amrywiaeth mwy eto yn ei ddulliau o weithredu. Bydd gan lawer Cymdeithas ei Phwyllgor Addysg ei hun wedi ei ddewis o blith ei haelodau. Y mae gan ddeugain cymdeithas eu swyddogion addysg ac aelodau eraill ar y staff, a'r cwbl yn rhoddi eu holl amser i'r gwaith, ac y mae ganddynt eu hadeiladau eu hunain i gynnal cyfarfodydd a dosbarthiadau. Eu heiddo hwy yw'r gwaith hwn, a gwariant ryw 300,OOOp y flwyddyn arno. Dibynna swm yr arian a wariant ar faint y gymdeithas, a hefyd ar sêl yr aelodau ac amgylchiadau'r gymdeithas. Fe welir wrth chwilio, mai'r cymdeithasau hynaf, y rhai sydd wedi hen sefydlu, a fydd yn ymddiddori fwyaf mewn addysg. Y rheswm am hyn ydyw mai ychydig iawn o gyfleusterau addysg i bobl mewn oed a oedd mewn bod pan sefydlwyd y cymdeithasau hyn, ac felly teimlent mai eu gwaith hwy oedd darparu dosbarthiadau iddynt eu hunain, a bod yn gyfrifol amdanynt. Felly y tyfodd traddodiad, ac wedi unwaith ei gychwyn, fel y dywaid yr hen air, 0 Iwyddiant, llwyddiant a ddaw." Yn y rhaglenni ceir pynciau fel y rhain-Y Dinesydd a Chymdeithas, Materion y Dydd, Gofal am y Plant, Y Gyfundrefn Gyfalafol, Y Gyfundrefn Gydweithredol, Hanes Cymdeithas a Diwydiant, Llywodraeth Wladol a Lleol, Lle Merched mewn Cymdeithas--dyna'r rhai mwyaf poblogaidd. Gwelir tuedd gref heddiw i chwanegu pynciau megis Egwyddorion Eco-