Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cerdded o'r gwesty fore'r gynhadledd, a chyfarfod â Mrs. Silyn ar y promenád, ie, a'r hwyl Gymraeg gyda chynrychiolwyr y Blaenau a Wrecsam, a chyfeillion o'r De, uwchben cwpanaid o goffi gyda'r nos. Yr wyf yn argyhoeddedig erbyn hyn, yn fwy nag erioed, fy mod yn aelod o Gymdeithas, a golyga hynny lawer mwy i mi na bod yn aelod o'r WEA. RHAI O AWDURON Y RHIFYN Syr WILLIAM LLYWELYN DAVIES—Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. GRUFFYDD GLYN Evans, y Drefnewydd—Swyddog Ieuenctid Sir Drefaldwyn. Miss CATHERINE HUGHES—Ysgrifennydd Dosbarth y Gan- llwyd, ger Dolgellau. T. Hughes JONES—Athro yng Ngholeg Athrawon Wrec- sam awdur Sgweier Hafila, Amser i Ryfel, Mewn Diwrnod, etc. ROBERT LLOYD (Llwyd o'r Bryn)-Ffarmwr a darlithiwr aelod gynt o Ddosbarth y Sarnau ger Llandderfel. MICHAEL GARETH LLEWELYN—Awdur Sand in the Glass, Angharad's Isle, The Aleppo Merchant, White Wheat, etc. Darn o The Aleppo Merchant a geir at t. 89 cymeradwywyd y cyfieith- iad gan yr awdur. Frederic Evans ydyw ei enw priodol, a'i dad, Cadrawd," ydyw'r Tomos Evans y gof y sonnir amdano yn y paragraff cyntaf. Tom OWEN—Ysgrifennydd Cangen Dyffryn Ogwen, Sir Gaer- narfon, o'r WEA. DYLAN PRITCHARD—Darlithydd mewn Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor Athro Dosbarthiadau. Y PARCH. EMYR ROBERTS, Trefor, Llanaelhaearn-Athro Dosbarthiadau.