Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(Ystyriwn fod y gwirioneddau hyn yn hunan-amlwg, sef bod dynion oll wedi eu creu yn gydradd, a'u cynysgaeddu gan eu Creawdr â hawliau arbennig na ellir mo'u hamddifadu ohonynt, gan gynnwys bywyd, rhyddid, a'r ymchwil am ddedwyddwch. Fod llywodraethau wedi eu sefydlu ymhlith dynion i ddiogelu'r hawliau hyn, gan dderbyn eu cyfiawn awdurdod trwy ganiatâd eu deiliaid. Fod hawl gan y bobl, pa bryd bynnag y try unrhyw ffurf ar lywodraeth yn ddinistriol i'r amcanion hyn, i'w newid neu ei diddymu, a sefydlu llywodraeth newydd yn ei lle, gan osod ei sylfeini ar y fath egwyddorion, a threfnu ei hawdurdod yn y fath fodd, ag a ymddangoso iddynt hwy debycaf o sicrhau eu diogelwch a'u dedwyddwch). Datganiad yn yr un traddodiad ydyw'r Datganiad a fabwys- iadwyd gan Gynhadledd Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Mharis, ym mis Rhagfyr 1948. 0 ran ffurf, yn ogystal ag o ran cynnwys, y mae'n debyg iawn i'r datganiadau gynt eithr o ran cynnwys, y mae iddo hefyd, mi gredaf, ragoriaethau amlwg ar y rhan fwyaf ohonynt. Yn gyntaf, y mae dipyn yn llai haniaethol ei wedd. Fe fodlonai'r hen ddatganiadau, fel rheol, ar ddweud bod gan bob dyn hawl i ryddid, boed ryddid barn neu ryddid ymadrodd neu unrhyw ryddid arall, eithr heb fanylu rhagor, na dweud yn gymwys beth a olygid yn ymarferol wrth y rhyddfreintiau a ganiateid ganddynt. Yn hyn o beth, y mae Datganiad y Cenhed- loedd Unedig lawer iawn ar y blaen iddynt. Cymerer, er enghraifft, y ddwy erthygl a ganlyn Erthygl 13 1. Y mae gan bawb hawl i ymsymud fel y mynno ac i breswylio lle y mynno o fewn terfynau'r wlad- wriaeth 2. Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys ei wlad ei hun,ahawl i ddychwelyd i'w wlad ei hun. Erthygl 18 Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, rhyddid cydwybod a rhyddid crefydd fe gynnwys hyn ryddid iddo newid ei grefydd neu ei gred, a rhyddid hefyd, naill ai ar ei ben ei hun ai gydag eraill, yn gyhoeddus neu'n breifat, i amlygu ei grefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau. Os cymherir yr erthygl hon, yn awr, â'r erthygl a ganlyn o'r Datganiad o Iawnderau Dyn, 1789, fe welir ar unwaith gymaint ydyw'r gwahaniaeth rhyngddynt.