Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHORAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y OWEITHWYR YNO NOHYMRü CYF. VI GAEAF 1950 RHIF 4 NODIADAU'R GOLYGYDD VR oedd dwy araith a draddodwyd yn Saesneg, gan Syr George Williams a Ness Edwards, ymysg y rhai a gafodd fwyaf o sylw yn Eisteddfod Gaerffili; ni chefais wybod yn siwr ar bwy yr oedd y bai mai yn Saesneg y traddodwyd hwynt. Dywedir bod Syr George Williams, Arglwydd Faer Caerdydd, yn Gymro o'r iawn ryw, ac yn selog dros bethau Cymraeg, ond rhoes ei droed ynddi yng NghaerflBli drwy drafod materion nad oeddynt yn rhai priodol i'w trafod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu Gwenallt, o ran hynny, yn euog o'r un peth wrth feirniadu'r Awdlau, ac o'r ddau ef oedd y troseddwr pennaf, am ei fod yn Eisteddfodwr mwy profiadol. Ni chlywais araith Ness Edwards Ddydd Sadwrn, ond yn ôl y papurau fe lefarodd yntau beth ffôl dros ben pan ddywedodd fod y Cymry, wrth gadw'r Eisteddfod Genedlaethol yn gwbl Gymraeg, yn gosod llen haearn rhyngddynt a'u cydwladwyr Saesneg. Os ydyw gwahaniaeth iaith yn llen haearn, yna y mae llen haearn rhwng pob gwlad yn Ewrop a'i gilydd. Nid dyna ydyw llen haearn o gwbl; defnyddir yr ymadrodd i olygu'r rhwystrau a esyd Llywodraeth gwlad i atal ei phobl ei hun a phobl gwledydd eraill rhag cyfathrachu a'i gilydd. Llen na ellir torri drwyddi ydyw llen haearn ond am y llen sydd rhwng y Cymry a'r Saeson, fe dorrodd y Cymry drwyddi'n ddigon rhwydd drwy ddysgu Saesneg, a gallai'r Saeson dorri drwodd yr un mor rhwydd drwy ddysgu Cymraeg. Ffiloreg noeth oedd galw gwahaniaeth iaith yn llen haearn." Ond ynghwrs ei sylwadau fe alwodd Mr. Edwards sylw at fater pwysig iawn, a gwnaeth un awgrym. Dywedodd fod mawr angen am hyrwyddo gwell dealltwriaeth rhwng y Cymry a'r Saeson yng Nghymru (neu'n hytrach y Cymry dwyieithog a'r Cymry di-Gymraeg), ac y byddai Gŵyl Genedlaethol undebol Ue